Ar-lein, Mae'n arbed amser
‘Model’ Merthyr yn gymorth i’r fyddin a phrofi torfol ledled y DU
- Categorïau : Press Release
- 08 Rhag 2020

Disgrifiodd Merthyr Tudful yn “gymuned liwgar sydd am gyfranogi a gweld manteision profi” ac ychwanegodd: “Mae wedi bod yn gyflawniad gwych ar gyfer y gymuned gyfan.”
Cafodd y Brigadydd Dawes gwmni Uwch Swyddog yr Awyrlu Brenhinol, y Cadlywydd Awyr, Dai Williams a derbyniodd y ddau ohonynt gofroddion gan Arweinydd y Cyngor Bwrdeistref, y Cynghorydd Kevin O’Neill, y Prif Weithredwr, Ellis Cooper a’r Dirprwy Brif Weithredwr, Alyn Owen.
Rhoddwyd rhoddion yn ogystal i’r swyddogion eraill a oedd yn bresennol gan gynnwys Arweinydd y Sgwadron, Phil Todd, Cadlywydd yr Awyrlu a’r Brigadydd Harrison, Ymgysylltiad SO2 (Amrywiaeth a Chynhwysiant) 160 y Milwyr Traed (Cymru.)
Dywedodd y Cynghorydd O’Neil iddo gael ei fodloni gan “bresenoldeb gwych y fyddin.” Ychwanegodd: “Mae’r swyddogion wedi bod yn gadarn, teg ac ymgysylltiol ac wedi arddangos gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o ysbryd y gymuned.”
Dywedodd y Brigadydd Dawes fod Swyddogion yr Awyrlu a fu’n cynhorthwy â’r profion wedi mwynhau eu hamser ym Merthyr Tudful ac y byddai’r profiad yn gymorth wrth wneud yr un fath mewn mannau eraill.
“Mae’n beth anhygoel i Ferthyr fod wedi ei wneud ac rydym yn falch i fod wedi bod yn rhan ohono,” ychwanegodd. “Bydd y cael ei adnabod fel Model Merthyr.”
Hyd at 6 Rhagfyr, cafodd 22,331 o bobl eu profi nad oedd â symptomau Coronavirus a hynny mewn canolfannau ledled Merthyr Tudful. Ers i’r profi torfol ddechrau ar 21 Tachwedd, derbyniodd 280 o bobl ganlyniadau positif. Bydd y profi yn parhau hyd 10 Rhagfyr.