Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cwpan Rygbi’r Byd Ysgolion Cynradd Merthyr
- Categorïau : Press Release
- 05 Hyd 2023
Buom yn cyfarfod gyda Mr Craig Lynch, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Pantysgallog, a gafodd y syniad o greu Cwpan Rygbi’r Byd Ysgolion Merthyr, Dydd Mercher y 18fed o Hydref, 10am-2pm y Wern, Clwb Rygbi Merthyr.
Mae Mr Lynch yn angerddol am ei gymunedau lleol ac yn angerddol hefyd ynghylch y syniad o gynyddu chwaraeon ac ymarfer corff mewn ysgolion, gyda’r nod o ddenu ysgolion at ei gilydd mewn amgylchedd hwyl a chystadleuol.
O ble ddaeth y syniad?
Fel rhan o’n gwaith gyda’r cwricwlwm newydd, rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirioneddol i ddysgu. Sylwais ar Gwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc fel ysbardun difyr i blant, a chyfle i Ddosbarth 10 – plant oed 8 a 9 (Blynyddoedd pedwar a phump) – i gynllunio, trefnu a chynnal eu digwyddiad eu hun. Mae gan ddisgyblion ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac yng Nghwpan y Byd, ac roedd Dosbarth 10 eisiau cynyddu effaith y digwyddiad. Fel rhan o’u gwaith caled tuag at drefniadau’r twrnamaint, mae’r disgyblion wedi cyfathrebu gydag ysgolion a sefydliadau, denu nawdd, archebu offer a rheoli cyllid. Maent wedi datblygu’r sgiliau bywyd-go-iawn hyn yn ystod cyfnod cynllunio’r prosiect ac mae wedi bod yn hyfryd eu gweld yn ffynnu ac yn disgleirio mewn gwahanol gyd-destun.
Beth yw manteision bod yn rhan o’r gweithgaredd?
Y brif fantais yw’r cynnydd mewn ymarfer corff i bawb sy’n cymryd rhan, ac rydym am i’r twrnamaint gael effaith gadarnhaol ar lesiant pawb sy’n rhan ohono. Bydd pob un o’r chwaraewyr yn datblygu eu sgiliau rygbi mewn amgylchedd cystadleuol a strwythurol. Tra bod natur gystadleuol i’r digwyddiad, bydd disgwyl i chwaraewyr ac ysgolion ddilyn rheolau a chyfarwyddyd sy’n annog chwarae teg. Mae gan bob ysgol gyfle cyfartal i gael eu coroni’n ‘Bencampwyr Cwpan y Byd Merthyr 2023’ – am orchest wych! Nod y twrnamaint yw rhoi, i bawb fydd yn cymryd rhan, atgof fydd yn para am byth.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae ugain o ysgolion cynradd o Ferthyr yn cymryd rhan sef: Pantysgallog, Dowlais, Ysgol Y Graig, Goetre, Gellifaelog, Gwaunfarren, St Illtyds, St Marys, St Aloysius, Parc Cyfarthfa, Coed Y Dderwen, Heolgerrig, Twynyrodyn, Caedraw, Trelewis, Bedlinog, Troedyrhiw, Ysgol Santes Tudful, Abercannaid, Edwardsville.
Bydd pob ysgol yn cynrychioli gwlad o Gwpan y Byd 2023 yn Ffrainc. Bydd plant o flynyddoedd 5 a 6 yn cynrychioli eu hysgolion, ac un o’n rheolau yw bod yn rhaid bod o leiaf un ferch ar y cae ar bob adeg.
Pryd fydd hwn yn digwydd?
Dydd Mercher y 18fed o Hydref, 10am-2pm y Wern, Clwb Rygbi Merthyr.
Bydd cyn-Gapten Cymru, Mr Paul Thorburn, yn mynychu er mwyn cyflwyno tlysau i’r pencampwyr.
Sut all y gymuned leol gymryd rhan?
Mae croeso i chi ddod i wylio! Rydym yn annog teuluoedd i ddod i gefnogi eu hysgolion/ gweledydd. Rydym yn annog ysgolion i baratoi baneri eu gwledydd er mwyn ychwanegu at awyrgylch y dydd! Dewch i’n cefnogi!
Diolch
I Glwb Rygbi Merthyr am fod mor garedig â gadael i ni ddefnyddio eu cyfleusterau arbennig ar y diwrnod.
Rydym wedi bod yn lwcus iawn i dderbyn cefnogaeth a nawdd gan New Directions Recruitment sydd wedi noddi crysau-t lliwiau’r gwledydd i’r holl ysgolion sy’n cystadlu. Mae Valleys Education hefyd wedi bod mor hael a noddi crysau-t i bob un o drefnwyr Dosbarth 10. Yn ogystal â hynny mae Heini Merthyr Tudful wedi noddi tlysau i’r enillwyr a medalau i bawb sy’n cymryd rhan