Ar-lein, Mae'n arbed amser
Stori llwyddiant twristiaeth £1000m Merthyr Tudful yn llamu yn ei blaen
- Categorïau : Press Release
- 11 Hyd 2019

Clywodd cynrychiolwyr cynhadledd flynyddol ‘Diwrnod Cyrchfan’ y Cyngor Bwrdeistref Sirol fod y nifer o ddyddiau ag ymwelwyr yn aros noson i fyny gan 13.6% hefyd. Roedd hyn o ganlyniad i gynnydd mewn stoc gwely, yn arbennig yn y sector heb wasanaeth – sef llety hostel, carafanio a gwersylla a 104 yn ychwanegol o wlâu yng Nghanolfan Gopa Rock UK ac ymddangosiad o lawer o lefydd Airbnb.
Wrth gyflwyno’r canfyddiadau, dywedodd y Prif Weithredwr Interim Ellis Cooper wrth y gynhadledd: “Mae sawl cynllun a phrosiect cyffrous ar y gweill ar gyfer Merthyr Tudful - gormod i’w henwi i gyd - ond o ran y canlynol sydd eisoes yn dwyn ffrwyth, ceir ciplun yn unig o’r holl waith da a fydd yn digwydd,”
Yna, amlinellodd rai o’r prosiectau allweddol sy’n digwydd yn 2019-2022, gan gynnwys datblygu Cynllun Meistr Ardal Treftadaeth Cyfarthfa ac ariannu Parc Rhanbarthol y Cymoedd, gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful, Cam 2 datblygiadau yn BikePark Wales a grant o £417,000 a sicrhawyd gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ataliol ym Mharc Taf Bargoed.
Cafwyd amrywiaeth eang o siaradwyr yng Nghanolfan Fusnes Orbit yn cynnwys arbenigwyr ym maes twristiaeth, pensaernïaeth ac adeiladu, ynghyd ag entrepreneuriaid yn darparu gweithgareddau antur, llety, siopa, ciniawa ac adloniant.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Cynghorydd Kevin O’Neill fod twf parhaus y sector dwristaidd dros y 10 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn gyson. “Does dim ond rhaid i ni edrych ar y cynnydd o ran darparwyr llety fan hyn dros y degawd diwethaf – yn 2009 roedd 19 o fusnesau’n masnachu, o’u cymharu â 53 bellach ac mae’n parhau i dyfu,” ychwanegodd.
“Yn 2018, nododd ffigyrau STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Model) fod Merthyr Tudful wedi elwa o dros 1.79m o ymwelwyr dydd, gyda dros 200,000 o bobl yn aros dros nos am gyfartaledd o ddwy noson am bob arhosiad.”
Dywedodd y Cynghorydd O’Neill y byddai’r awdurdod yn ‘ymdrechu i dyfu a hyrwyddo’r hyn sydd gennym i’w gynnig eisoes a chynhyrchu pecynnau cydweithredol i annog pobl i aros yn hirach yn yr ardal, cynyddu’r niferoedd o ymwelwyr sy’n aros a chryfhau’r economi leol hyd yn oed ymhellach.’
Ychwanegodd: “Mae gennym adnoddau ymroddedig yn ein tîm datblygu economaidd i weithio ar y cyd â chi er mwyn datblygu rhaglen ddynamig o flaenoriaethau cyrchfan.”
Ymhlith siaradwyr eraill yn y gynhadledd oedd Ian Ritchie, y mae ei dîm o benseiri yn gweithio ar ddylunio Cynllun Cyfarthfa â’r nod o greu canolfan dreftadaeth ryngwladol.
Cafwyd sgwrs hefyd gan Reolwr Safle Trago Merthyr, Richard Mears a’r Rheolwr Gwella Busnes, Ellie Robertson am ail gam datblygiadau’r siop sy’n cynnwys gorsaf betrol a chyfleusterau hamdden pellach.
Gwnaeth Rheolwr Rhaglen y Cyngor, Ryan Barry, amlinellu ei gynigion ar gyfer datblygu’r ‘Cynllun Rheoli Cyrchfan’ newydd a’i aliniad strategol at Gynllun Gweithredu newydd Croeso Cymru ar gyfer Cymru, yn ogystal â phrosiectau’r dyfodol sy’n cael eu datblygu gan y tîm Adfywio Cymunedol.
Dywedodd y Cydlynydd Rheoli Cyrchfan Lyndsey Handley: “Y Diwrnod Cyrchfan hwn oedd yr un mwyaf o ran maint a llwyddiant yr ydym wedi ei gael hyd yma. Roedd y cynrychiolwyr wedi