Ar-lein, Mae'n arbed amser
Fforwm 50+ Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 12 Chw 2020
Gwahoddir i breswylwyr dros 50 ddod i glywed am brosiect arloesol â’i nod o frwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol drwy helpu i ffurfio grwpiau gweithgaredd corfforol lleol.
Mae Fforwm 50+ Merthyr Tudful yn cynnal ei gyfarfod nesaf am 10am ddydd Llun 2 Mawrth yn Neuadd Eglwys y Bedyddwyr, Stryd Fawr, pan fydd y siaradwr gwadd Brendan Hopkins yn siarad am fenter ‘Super-Agers’, sef prosiect ar y cyd rhwng Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Y siaradwr gwadd arall yw Stephanie Davies, Merthyr Tudful a Chynghorydd Cynhwysiant Digidol Rhondda Cynon Taf gyda Chymunedau Digidol Cymru, sy’n gweithio i helpu pobl i feithrin sgiliau digidol sylfaenol.
Mae’r Fforwm wedi ei gynllunio i gynrychioli hawliau a safbwyntiau pobl dros 50+ ledled y fwrdeistref sirol, i herio gwahaniaethu o ran oedran, ymgynghori â a llywio pobl dros 50+ ar faterion o ddiddordeb iddyn nhw a helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.