Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhaglen brentisiaeth Merthyr Tudful yn rhoi hwb i ddiwydiant lleol

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Hyd 2019
Aspire celebration

Mae pobl ifanc ym Merthyr Tudful yn cynorthwyo i roi hwb i’r diwydiant gweithgynhyrchu a pheirianyddol lleol fel rhan o fenter prentisiaeth cyflogaeth lwyddiannus.

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae Rhaglen Prentisiaeth a Rennir Aspire a ariannir gan Lywodraeth Cymru wedi lleoli dros 30 o bobl ifanc â chyflogwyr gwadd wrth iddynt astudio yng Ngholeg Merthyr Tudful, Coleg Y Cymoedd a Choleg Caerdydd a’r Fro.

Mae Aspire yn brosiect partneriaeth lle y ca prentisiaid yn cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, eu hyfforddi gan y colegau a Hyfforddiant Tudful a’u lleoli â chwmni lleol am ddwy neu dair blynedd, yn ddibynnol ar hyd eu cwrs prentisiaeth.

Anogir hwy i fynd o gyflogwr i gyflogwr yn y sector gweithgynhyrchu a pheirianyddol uwch er mwyn llenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau sy’n gysylltiedig â’u llwybrau dysgu. Maent yn cael eu talu’n uwch na lleiafswm cyflog prentisiaid. Mae hefyd rhai manteision ariannol i gyflogwyr fod yn rhan o’r rhaglen.

Heddiw (16 Hydref 2019,) roedd Ken Skates AC a Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth ym Merthyr Tudful er mwyn clywed rhagor am y cynllun mewn digwyddiad a oedd yn dathlu ei lwyddiant.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Kevin O’Neill, mewn digwyddiad yn Redhouse Cymru fod gweithgynhyrchu a pheirianneg bob amser wedi cael effaith arwyddocaol ar drigolion Merthyr Tudful.

“O orffennol llwyddiannus ffatri Hoover i gwmnïau modern sy’n arwain y ffordd â’u cynnyrch, mae peirianneg bob amser wedi bod yn ganolog i Ferthyr Tudful,” dywedodd.

“Cyn dyfodiad Aspire, fodd bynnag, bu’n frwydr i ganfod lleoliadau prentisiaeth peirianyddol yn lleol. Ni allai llawer o gyflogwyr weld manteision cymryd prentisiaid a dynododd rhai eu bod yn eu cael hi’n anodd dygymod â’r cymhlethdodau a ddaw yn sgil rheoli aelod newydd, ifanc o’r staff”, ychwanegodd y Cynghorydd O’ Neill.

“Mae Rhaglen Aspire wedi llwyddo i newid calonnau a safbwyntiau - gan adeiladu perthnasau cryfion y gellir ymddiried ynddynt â chyflogwyr gan fentora prentisiaid ifanc ar eu taith i fod yn beirianwyr cymwys.

Fel awdurdod lleol, rydym yn falch i reoli rhaglen sydd wedi creu dros 30 o gyfleoedd gwaith ar gyfer lleoliadau gwaith a phrentisiaeth gyflogedig, llawn amser. O gofio’r hinsawdd sydd ohoni, mae cyflawniad Aspire yn arbennig.”

Dywedodd Mr Skates Dywedodd Mr Skates: “Rwyf wrth fy modd fod Cynllun Prentisiaeth a Rennir, Aspire sydd wedi cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru wedi creu nifer o gyfleoedd i ddysgwyr ennill sgiliau gwerthfawr a fydd yn gymorth iddynt yn y dyfodol.

“Mae’n gwbl glir fod cyflogwyr a phartneriaid wedi dangos penderfynoldeb i ddarparu’r cyfleoedd prentisiaeth gorau ar gyfer pobl ifanc ym Merthyr Tudful.

“Mae Prentisiaethau a Rennir wedi bod yn boblogaidd a thrwy symud rhwng cyflogwyr, gall prentisiaid gael dealltwriaeth dda o wahanol weithleoedd a datblygu eu sgiliau ymhellach.

“Bydd y cynllun hwn yn gosod sylfaen am fywyd ffyniannus ar gyfer y bobl ifanc yma a dymunaf bob llwyddiant i bob un ohonynt ar eu teithiau prentisiaeth.”

Mae’n rhaid i ymgeiswyr Aspire fod rhwng 16 a 24 mlwydd oed; feddu ar bump TGAU, graddau A-C gan gynnwys pynciau STEM a lefel A mewn pynciau STEM - yn enwedig mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai bod yn dechrau ar Gymhwyster Galwedigaethol, fod wedi cwblhau Rhaglen Beirianyddol Uwch, Llwybr i Brentisiaeth neu wedi cwblhau Cymhwyster Galwedigaethol yn y coleg.

• Os ydych chi’n rhedeg cwmni gweithgynhyrchu/peirianyddol ym Merthyr Tudful ac yr hoffech ddysgu rhagor am y rhaglen, cysylltwch â Jared Green ar 01685 725309, e-bost jared.green@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni