Ar-lein, Mae'n arbed amser

Galw ar fusnesau ym Merthyr Tudful i gwblhau arolwg economaidd

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Chw 2021
micheile-henderson-lZ_4nPFKcV8-unsplash

Mae’r Cyngor Sir yn adeiladu ar y datblygiad a wnaethpwyd i gynorthwyo busnesau ym Merthyr Tudful trwy gydol y pandemig drwy ofyn iddynt fod yn rhan o ‘weledigaeth economaidd’ uchelgeisiol yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Mae Swyddogion Adfywio, Refeniw a Budd-daliadau wedi cynorthwyo busnesau i sicrhau  £25 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru ers y cyfnod clo cyntaf yn mis Mawrth 2020. Mae’r Cyngor yn awr yn gosod ei gynlluniau ar gyfer yr economi leol – ‘yr hyn yr ydym ei eisiau ar gyfer ein preswylwyr, ein cymunedau a’n busnesau.’

Cam cyntaf y cynllun yw gofyn i fusnesau gymryd rhan mewn arolwg byr sydd yn edrych ar sut y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt, pa gymorth y maent wedi ei dderbyn ac sydd ei angen arnynt o hyd a pha gamau y maent wedi eu gwneud neu am eu gwneud er mwyn arallgyfeirio a chryfhau masnachu yn y dyfodol. 

“Mae COVID-19 wedi bod yn heriol i bawb ond fel cymuned, rydym wedi dangos gwydnwch ac addasrwydd,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd.

“Bydd y Weledigaeth Economaidd yn gymorth i ni adfer wedi canlyniadau economaidd y pandemig ond bydd hefyd yn darparu’r ffocws hirdymor sydd ei angen arnom i arallgyfeirio ac i’r economi ffynnu a hynny er budd ein preswylwyr, ein cymunedau a’n busnesau.”  

Mae amcanion y cynllun yn cynnwys:

  • sefydlu Bwrdd Adfer Economaidd i arolygu’r gwaith
  • gweithio â swyddogion er mwyn cydlynu cymorth busnes ar gyfer cynaliadwyedd busnesau lleol
  • sicrhau fod pob busnes lleol yn ymwybodol ac y cael eu cynorthwyo i dderbyn cymorth grant uniongyrchol er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi
  • Partneriaeth Fusnes, Addysg a Hyfforddiant (PFAaH) er mwyn datblygu’r cysylltiadau rhwng y sector busnes a darpariaeth addysg Merthyr Tudful
  • datblygu cyfleoedd i alluogi plant a phobl ifanc i gael profiad o gyfleoedd cyflogaeth ehangach trwy bartneriaeth

Mae’r Cyngor wedi gweithredu amryw o gamau er mwyn cynorthwyo masnachwyr canol y dref i ddychwelyd yn ddiogel gan gynnwys darparu swyddogion sydd yn gweithio’n agos â busnesau a Heddlu De Cymru, darparu cyfarpar diogelwch personol a defnyddio arwyddion a marciau llawr i gynorthwyo ag ymbellhau cymdeithasol a llif y cerddwyr.

Mae Cynnig Gwelliant Busnes Merthyr Tudful (CGB) hefyd wedi cynorthwyo masnachwyr canol y dref gan ddarparu cyfarpar diogelwch personol, sticeri llawr a phosteri gwybodaeth am Covid-19. 

Mae’r Cyngor yn gweithio ag ymgynghorwyr cynllunio a dylunio, The Urbanists ac ymgynghorwyr economaidd, The Means er mwyn paratoi cynllun. Dywedodd Liam Hopkins, Cyfarwyddwr Cyswllt, The Urbanists y byddai’r Weledigaeth yn gymorth “i wella newid/adferiad yr economi leol” ac na allai hyn gael ei gyflawni heb gymorth a chyfranogiad partneriaid allweddol a busnesau ym Merthyr Tudful.

“Uchelgais y Cyngor dros y flwyddyn nesaf yw datblygu canol y dref fel hyb strategol a rhan o System Fetro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ganolbwyntio ar seilwaith trafnidiaeth, adfywio ffisegol a gwneud lleoliad,” meddai Liam.  

“Rydym felly am ddeall rhagor am ein busnesau, yr heriau a’r cyfleoedd a’r ffactorau allai eu cefnogi i ddyfod yn fwy llwyddiannus.”

  • Mae arolwg ymgynghoriad Gweledigaeth Economaidd a Chynllun Adferiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael ei gynnal rhwng 16 Chwefror a 16 Mawrth. Er mwyn cyfranogi, cliciwch yma.

Llun gan Micheile Henderson ar Unsplash

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni