Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cefnogi busnesau Merthyr Tudful i ailymuno â’r trywydd iawn ar ôl y cyfnod clo

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Meh 2020
default.jpg

Cefnogi busnesau Merthyr Tudful i ailymuno â’r trywydd iawn ar ôl y cyfnod clo

Mae Swyddogion Cyngor Merthyr Tudful wedi bod yn gweithio gyda busnesau lleol i geisio cyfyngu ar y difrod sy’n eu hwynebu o ganlyniad i gyfnod clo’r coronafeirws.

Yn ogystal â helpu cwmnïau i gael gafael ar grantiau gwerth £12m gan Lywodraeth Cymru, mae Timau Refeniw ac Adfywio Cymunedol y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn eu helpu i gynllunio adferiad trwy ddefnyddio holiadur i wirio iechyd eu busnesau.

Hyd yma, nodwyd bod 975 o fusnesau Merthyr Tudful â safleoedd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws a’u bod yn gymwys i gael cyllid. Mae o fusnesau eraill yn y broses o gael eu tracio.

Yn ogystal â hynny, mae cannoedd o fusnesau yn cymryd rhan mewn arolwg sy’n anelu at adeiladu darlun o effaith Covid-19 ar eu cynlluniau masnachu ac adfer, a byddir yn defnyddio’i ganlyniadau i bennu pa gefnogaeth bellach fydd ei hangen.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Llywodraethu: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu ymateb yn gyflym a chael grantiau i’r rhai sydd eu hangen yn daer, ac rydyn ni’n ceisio cysylltu â’r rhai eraill sydd ddim wedi dod i gysylltiad â ni eto.

“Rydyn ni hefyd yn falch o’r ffordd y mae’r Gwiriad Iechyd Busnes yn ein helpu ni i ddeall modelau’r busnesau hyn, ac i weld a fyddant yn dal i weithio yn y dyfodol.

“Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, mae ein timau wrthi’n datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer sefydliadau unigol ac mae swyddog allweddol o’r adran wedi’i benodi i weithio gyda nhw. Mae’r busnesau hyn ymhlith ein prif flaenoriaethau a byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i’w helpu i oroesi.”

Derbyniodd Morgan Financial Solutions, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Fusnes Orbit er 2014, y grant o £10,000 ar gyfer busnesau bach, a golygai hynny nad oedd rhaid i’r cwmni ddiswyddo unrhyw staff.

Mae’r cwmni hwn yn cynnig cyngor ar forgeisi trwy rwydwaith helaeth o froceriaid a chyflwynwyr, a dywedodd Phil Morgan, y Sylfaenydd a’r Prif Weithredwr, fod ganddo dîm yn y brif swyddfa sy’n cynnwys pedwar aelod parhaol o staff ynghyd â mwy na 30 o gynghorwyr hunangyflogedig mewn lleoliadau ledled Cymru a Lloegr.

Ychwanegodd: “Mae’r grant wedi bod yn wych am ei fod wedi fy arbed rhag gorfod diswyddo pobl. Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan staff y Cyngor yng Nghanolfan Orbit wedi bod yn help enfawr. Yn wir, ni fyddwn wedi gwybod am y grant oni bai amdanyn nhw.”

Busnes bach arall a dderbyniodd grant oedd Lucy Lou’s Tattoos ym Mhontmorlais. Mae’r perchennog Lucy Turner eisoes yn paratoi i ailagor pan ganiateir iddi, er y bydd yn rhaid iddi weithredu rhagofalon llym.

“Rwy’i wedi prynu feisorau wyneb i mi fy hun ac i’r ddau datŵydd arall fydd yn gweithio yma ar ôl y cyfnod clo,” meddai. “Bydd gennym ni fasgiau y gallwn ni ddefnyddio un tro yn unig ar gyfer ein cleientiaid. Un cleient fydd i bob tatŵydd, a chaiff neb o’u ffrindiau na’u teuluoedd aros gyda nhw yn ystod y sesiwn. Bydd hylif diheintio dwylo ar gael ymhob ystafell, a bydd rhaid talu gyda cherdyn yn unig.”

Dywedodd Lucy ei bod yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Cyngor. Ychwanegodd: “Mae’r Cyngor wedi fy helpu i gryn dipyn yn ystod y cyfnod hwn ac nid oeddent yn betrus o gwbl wrth egluro unrhyw beth ro’n i’n ansicr yn ei gylch.”

“Ro’n i wedi bod ar ganol adnewyddu rhan o’r siop cyn y cyfnod clo, ac mae’r grant wedi caniatáu imi barhau â hynny a chadw’r siop i dician drosodd. Diolch yn fawr iawn!”

Mae’r Cyngor yn gweithio ar gynigion eraill er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a bywiogrwydd y busnesau yng nghanol y dref ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben. Bydd eu ffyrdd o weithredu yn wahanol, ond mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau y gall masnachwyr barhau i weithredu mor normal â phosibl.

• Os hoffech ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael, e-bostiwch economicdevelopment2@merthyr.gov.uk

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni