Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae busnesau Merthyr Tudful hannog i fod yn bresennol MIPIM 2020
- Categorïau : Press Release
- 19 Tach 2019
Mae busnesau Merthyr Tudful yn cael eu hannog i fod yn bresennol mewn digwyddiad a fydd yn rhoi manylion iddynt o arddangosfa eiddo tramor sy’n adnabyddus am ei gyfleoedd buddsoddi.
Mae MIPIM (Marche International des Professionals d’Immobilier,) sydd yn cael ei gynnal yn Cannes ym mis Mawrth 2020 yn denu miloedd o bobl pob blwyddyn gan gynnwys oddeutu 10,000 o fuddsoddwyr a datblygwyr o bob cwr o’r byd.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn trefnu digwyddiad ymgysylltu rhanbarthol y mis hwn ar gyfer busnesau o Ferthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen er mwyn dysgu rhagor am MIPIM 2020 a chyfleoedd i bartneriaid.
Y bwriad yw annog busnesau o bob rhan o’r rhanbarth i fynychu’r digwyddiad er mwyn arddangos De Ddwyrain Cymru a hynny yn arddangosfa eiddo fwyaf y byd.
“Wrth i grantiau Ewropeaidd ddod i ben a chyllid y Fargen Ddinesig fynd rhagddynt, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod yn gwerthu’n cryfderau cystadleuol ar lwyfan byd eang ac yn canfod buddsoddwyr, cefnogwyr a marchnadoedd sy’n hoffi’r hyn sydd gan y rhanbarth i’w gynnig,” dywedodd Chris Long, Pennaeth Adfywio a Thai Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr.
Mae’r digwyddiad ymgysylltu yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Dyfeisgarwch Busnes Springboard, Parc Llantarnam , Cwmbran ar Ddydd Mercher 27 Tachwedd rhwng 6pm a 8pm. Bydd cyfle i glywed gan bartneriaid blaenorol a’u profiadau o’r MIPIM; bydd cyfle i rwydweithio a bydd lluniaeth hefyd ar gael.