Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful yn dathlu degawd o feiri ieuenctid gydag oriel bortreadau

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Meh 2019
Youth Mayors celebration

Dathlwyd cofnod balch o gefnogi degawd o feiri ifanc wrth ddadorchuddio oriel bortreadau yng Nghanolfan Ddinesig Merthyr Tudful.

Nododd y Cyngor Bwrdeistref Sirol 10fed pen blwydd urddo ei faer ieuenctid cyntaf drwy wahodd y maer cyfredol a naw deiliad blaenorol y swydd, i ddod i’r digwyddiad.

Dywedodd Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc y Cyngor, y Cynghorydd Chris Davies: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gweithio gyda Chabinet Ieuenctid a Fforwm Ieuenctid Ledled Bwrdeistref Merthyr Tudful i gynnal a dathlu 10 mlynedd o fenter y Maer Ieuenctid.

“Mae’r 10 ffotograff o’r meiri ieuenctid yn hawlio’u lle’n falch ar hyd goridor yr ystafelloedd cyfarfod yn y Ganolfan Ddinesig. Rwyf am gadarnhau ymrwymiad y Cyngor i’n gwaith parhaus gyda’n pobl ifanc ac i ddatblygu a chynyddu’r agenda cyfranogi ledled y fwrdeistref sirol.”

Ysgogwyd creu’r rôl gan Fforwm Ieuenctid Ledled y Fwrdeistref, y mae ei Gabinet Ieuenctid yn gwneud yn siŵr fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau i bobl ifanc.

Gall pobl ifanc rhwng 11 a 23 oed enwebu eu hunain fel ymgeisydd ar gyfer rôl maer ieuenctid. Mae deiliad y swydd yn ymddwyn fel model rôl i bobl ifanc ac yn bresennol mewn gweithgareddau a digwyddiadau ochr yn ochr â’r maer sy’n oedolyn.

Mewn digwyddiad dathlu, dywedodd y cyn Faer Ieuenctid Lauren Davies fod llawer o awdurdodau lleol yn cael gwared ar y rôl, ond bod Merthyr Tudful yn ymladd yn galed i’w chefnogi a rhoi llais i bobl ifanc.

Dywedodd y Maer cyfredol, Krystian Maciejczyk, fod y gwaith sy’n cael ei wneud gan bobl ifanc Merthyr Tudful yn gwneud iddynt sefyll allan ymhlith y bwrdeistrefi sirol eraill, ond na fyddai’n bosibl heb gefnogaeth oddi wrth yr awdurdod lleol a’i wasanaethau ieuenctid.

Ychwanegodd Krystian, sy’n gyn-brif fachgen yn Ysgol Uwchradd Esgob Hedley, fod ei dreftadaeth Pwyleg wedi arwain ato’n tyngu llw wrth gael ei urddo, y byddai’n newid cysyniadau am fewnfudo a chodi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd a masnachu mewn pobl.

Dywedodd bod y Fforwm Ieuenctid yn gweithio ar becyn offer iechyd meddwl ar hyn o bryd, a fyddai’n cael ei lansio yn Redhouse Cymru ar 3 Gorffennaf.

Ymhlith y gwesteion eraill yn y digwyddiad o ddathlu oedd yr Uwch Siryf Morgannwg Ganol Mrs Tina Donnelly, Maer Merthyr Tudful y Cynghorydd Howard Barrett ac Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Kevin O’Neill.

Meiri Ieuenctid Merthyr Tudful 2009- 2019

  • 2009-2010 Amy Louise Williams
  • 2010-2011 Jamie Rhys Scriven
  • 2011-2012 Sarah-Jane Williams
  • 2012-2013 Daniel Walsh
  • 2013-2014 Shaunaleigh Llewellyn
  • 2014-2015 Ethan Scriven
  • 2015-2016 Sacha Thomas
  • 2016-2018 Lauren Jessica Davies
  • 2018-2019 Jenna Noble
  • 2019-2020 Krystian Maciejczyk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni