Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Cyngor Merthyr Tudful yn cyflawni achrediadau diogelwch seiber

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Mai 2019
CE_logo_affiliated_hi_res (2) (1)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch o fod yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i’w ardystio â ‘Cyber Essentials Plus’ a ‘Safon Llywodraethiant IASME (Dyfarniad Aur)’ drwy brosiect a ariannwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae’r ddau ardystiad yn helpu i drefnu diogelu yn erbyn y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin ac yn arddangos ymrwymiad at ddiogelwch seiber a’u bod yn cymryd camau da i ddiogelu gwybodaeth eu cwsmeriaid yn y modd cywir. Yn 2018 gwnaeth concordat rhwng Gweinidogion Cymru a CLlLC a oedd yn gosod allan mesurau cytunedig i gryfhau gwytnwch a diogelwch Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn erbyn bygythiadau seiber, eu gosod mewn lle, a gwnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau grant drwy CLlLC ar gyfer pob awdurdod lleol unigol i gyflawni ardystiad Cyber Essentials Plus.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, Ellis Cooper, “mae gwella gwytnwch seiber a diogelwch yn flaenoriaeth gorfforaethol hanfodol i ni er mwyn diogelu data ein preswylwyr. Mae cyflawni’r ardystiad yn ein galluogi ni i arddangos i Aelodau ac i’r cyhoedd lefel y mesurau diogelwch seiber rydym wedi eu gosod mewn lle, er mwyn cadw ein sefydliad yn ddiogel”. 

Dywedodd y Swyddog Diogelu Gwybodaeth, Ryan James, “mae cyflawni’r ardystiad yn dod â’i fanteision i’r sefydliad ac yn dawelwch meddwl i breswylwyr a phartneriaid busnes fod diogelwch seiber yn cael ei gymryd o ddifrif a’n bod ni’n gweithio i sicrhau ein TG yn erbyn ymosodiad seiber. Mae’r bygythiad seiber yn risg Haen Un DU sydd â chanlyniadau mawr i sefydliadau a’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu, drwy fabwysiadu mesurau diogelwch seiber rydym yn rhoi rheolau mewn lle i atal neu leihau effaith ymosodiad”.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni