Ar-lein, Mae'n arbed amser
Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Cyhoeddi ei Ymddeoliad
- Categorïau : Press Release , Council , Corporate
- 18 Gor 2019
Mae Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Gareth Chapman, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol yn ddiweddarach y mis hwn ar ôl 42 mlynedd mewn Llywodraeth Leol.
Gofynnodd Gareth, sydd wedi gwasanaethu'r Cyngor hwn am y 17 mlynedd diwethaf, i’r datganiad isod gael ei ddarllen ar ei ran mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn neithiwr, sef yr 17eg:
“Â chalon drom, rwyf am ichi wybod fy mod wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymddeol fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 31 Gorffennaf 2019.
“Ar ôl dechrau fy ngyrfa mewn Llywodraeth Leol ym mis Awst 1977 a rhoi bron i 42 mlynedd o wasanaeth, fe ddaeth yn bryd imi dreulio mwy o amser gyda fy nheulu a dilyn diddordebau eraill.
“Pan ymunais â'r Cyngor yn 2002, nid oedd Parc Manwerthu Cyfarthfa yn bodoli, ac nid oedd Cam 3 Dwyrain Merthyr wedi dechrau, heb sôn am y Parc Hamdden a’r Pwll Nofio. Yn ogystal â hynny, nid oedd Parc Iechyd Keir Hardie na Marks & Spencers wedi cyrraedd ac nid oedd Melinau Trago yma ychwaith; fodd bynnag, trwy gydweithio a gwneud penderfyniadau anodd, llwyddodd sawl gweinyddiaeth ar ôl ei gilydd i wireddu’r uchod a llawer, llawer mwy ar gyfer y gymuned.
“Bu hefyd yn fraint ac yn anrhydedd i gael arwain tîm o weithwyr sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r gorau ar gyfer cymunedau'r Fwrdeistref Sirol, hyd yn oed mewn cyfnod o gyni eithafol.
“Rwy'n mawr obeithio fy mod, yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, wedi chwarae rhan fach i wneud Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn lle gwych i fod yn gysylltiedig ag ef, ac rwy'n gwybod bod yna mwy i ddod. Carwn ddiolch i’r Cynghorwyr presennol a blaenorol am ganiatáu imi reoli ac arwain y Fwrdeistref Sirol hanesyddol hon am y 9 mlynedd diwethaf, a hoffwn ddymuno’n dda i bawb i’r dyfodol.
Meddai'r Arweinydd, y Cynghorydd Kevin ONeill: “Ers imi gael fy ethol yn 2017, rwyf wedi cael y cyfle i weithio'n agos gyda Gareth a gweld yr heriau sy’n wynebu Prif Weithredwyr mewn cyfnod o gyni. Mae Gareth wedi dangos ymrwymiad ac egni yn ystod ei amser ym Merthyr Tudful ac mae hyn yn amlwg i’w weld yn adfywiad ein Bwrdeistref Sirol dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae Gareth yn uchel ei barch ymhlith holl swyddogion ac aelodau'r Cyngor hwn, ac ar ran y sefydliad hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddo yn ei ymddeoliad a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Lisa Mytton: “Rwyf wedi gweithio'n agos gyda Gareth ers imi gael fy ethol yn 2008. Mae gan Gareth wybodaeth a phrofiad helaeth iawn ac mae wedi bod yn ased aruthrol i'r Cyngor a'i gymunedau trwy gydol ei wasanaeth. Hoffwn ddiolch i Gareth am ei gefnogaeth barhaus yn ystod fy 11 mlynedd yn y swydd a dymunaf yn dda iddo ar ei ymddeoliad.”
Estynnodd Gareth neges bersonol i weithwyr CBSMT gan ddweud: “Ar ôl gweithio am bron i 42 mlynedd mewn llywodraeth leol, rydw i wedi penderfynu mai nawr yw'r adeg iawn i mi adael y Cyngor a mwynhau treulio amser gyda fy nheulu ac ymhél â diddordebau a fethais eu gwneud wrth weithio'n llawn amser. Byddaf yn colli fy nghydweithwyr ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y bennod newydd.”