Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ddod yn sefydliad sy’n “groesawgar i faethu”
- Categorïau : Press Release
- 18 Mai 2020

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ymhell ar ei ffordd i gael ei gydnabod fel sefydliad sy’n “groesawgar i faethu”. Ym mis Mawrth, cytunodd y Cyngor ar bolisi newydd sy’n cefnogi unrhyw weithwyr sydd am faethu yn ogystal ag unrhyw weithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, trwy gynnig absenoldeb â thâl ychwanegol iddynt.
Mae hyn yn gam mawr ymlaen yn ymrwymiad y Cyngor i ennill Achrediad Maethu Cyfeillgar gan yr elusen flaenllaw, y Rhwydwaith Maethu. Mae’r polisi hwn ddim ond yn un o sawl cam y mae’r Cyngor yn eu cymryd i greu amgylchedd cefnogol i ofalwyr maeth yn y gweithle – boed nhw eisoes yn ofalwyr neu’n ddarpar ofalwyr.
Gellir rhoi hyd at 5 niwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i unrhyw weithiwr y Cyngor sy’n gwneud cais i ddod yn ofalwr maeth cymeradwy. Drwy hynny, fe all fynychu “hyfforddiant cyn cymeradwyo”, ymweliadau asesu yn y cartref, neu banel maethu fel rhan o’i asesiad. Gellir rhoi 5 niwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i weithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth cymeradwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fel y gallant fynychu cyfarfodydd, hyfforddiant neu ddelio â sefyllfa annisgwyl/argyfyngus mewn perthynas â phlentyn yn eu gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Davies, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae angen mwy o bobl arnom i ddod yn ofalwyr maeth a gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o’n gweithwyr i gynnig eu hunain am asesiad. Mae’r polisi diweddaraf hwn yn cydnabod y gall maethu fod yn heriol a’i nod yw rhoi cefnogaeth a hyblygrwydd i’n gofalwyr i’w helpu i reoli hynny.”
Y gobaith yw y gall cyflogwyr eraill ym Merthyr Tudful fabwysiadu polisi tebyg i’r Cyngor a chefnogi’u gweithwyr eu hunain os ydyn nhw hefyd am ddod yn Ofalwyr Maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
I ddarganfod mwy am faethu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ewch i www.fostercwmtaf.co.uk neu ffoniwch ni am sgwrs ar 01443 425007 heddiw.