Ar-lein, Mae'n arbed amser

Siop eco ail-lenwi Merthyr Tudful yn arwain y ffordd i ffwrdd oddi wrth blastig

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Hyd 2020
Green Refill shop launch

Mae Merthyr Tudful yn dweud helo wrth ei siop gyntaf sy’n galluogi cwsmeriaid i ‘ddweud hwyl fawr’ o’r diwedd wrth blastig untro tafladwy.

Mae Green, sy’n siop eco ail-lenwi, wedi agor ar Stryd y Clastir, ac mae’n gwerthu nwyddau ail-lenwi yn cynnwys cynnyrch glanhau, colur a bwyd fel brechdanau, coffi, cacennau a diodydd meddal. Bydd cwsmeriaid yn gallu ail-lenwi eu jariau a’u cynwysyddion a chaiff cost y nwyddau ei fesur gan bwysau’r ail-lenwad.

Dywedodd perchennog y busnes, Siân Bullen, ei bod wedi derbyn cefnogaeth, wrth sefydlu Green, gan gynllun ‘Yn y Cyfamser’ Merthyr Tudful, ymagwedd bartneriaieth at wella golwg canol y dref drwy ddefnyddio siopau gwag unwaith eto.

Daeth swyddogion datblygiad economaidd y Cyngor, Canolfan Fenter Merthyr Tudful, Tydfil Training, Busnes Cymru a pherchnogion eiddo at ei gilydd i ddarparu’r gefnogaeth gan gynnwys paratoi cynlluniau busnes a dod o hyd i lety tymor byr.

“Mae gwastraff plastig wedi dyfod yn fater difrifol yn ein byd ni heddiw ac mae angen mynd i’r afael ag e,” dywedodd Siân. “Bydd Green yn ddi-blastig a sero-wastraff, gan alluogi cwsmeriaid i ddweud hwyl fawr o’r diwedd wrth blastig untro tafladwy.

“Bydd yr eitemau bwyd hefyd yn cynnwys llysiau organig a chynnyrch bwyd sydd ag amrywiaeth o gynnyrch fegan, yn cynnwys amrywiaeth helaeth o wahanol fathau o laeth a chaws. Felly bydd cwsmeriaid yn gallu ymgysylltu a deall ffyrdd o wneud eu rhan i gael planed gynaliadwy ac iach i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae profiad yn y sector croesawu gan Siân o rhedeg tai bwyta prysur, ac yn ei rôl ddiwethaf roedd hi’n ymgynghorydd i fusnesau amrywiol o dafarndai, caffis a thai bwyta pitsa i ysgol feithrin.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Hwn yw 20fed busnes Yn y Cyfamser ym Merthyr Tudful ers i’r cynllun ddechrau bum mlynedd yn ôl.

“Rydym wrth ein boddau i groesawu Siân i ganol y dref ac rydym yn falch o fod yn croesawu’r unig siop ail-lenwi am filltiroedd lawer. Mae Merthyr yn adnabyddus o ran twf ac amrywiaeth y bwyd sydd ar gynnig yno, ac mae’n wych gweld hynny’n cael ei annog gan brosiect sy’n gwerthu bwyd iach a chynaliadwy a fydd o fudd i unigolion a’r blaned ei hun fel ei gilydd.”

  • Os hoffech beth cefnogaeth oddi wrth gynllun Yn y Cyfamser, cysylltwch â Chanolfan Fenter Merthyr Tudful ar 01685 727509.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni