Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bydd gofalwyr maeth Merthyr Tudful yn cael biliau’r Dreth Gyngor wedi eu haneru

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Maw 2020
default.jpg

O’r mis Ebrill hwn, bydd gofalwyr maeth a gymeradwywyd i dderbyn ffi am eu maethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn derbyn taliad ysgogiad o 50% tuag at eu bil blynyddol o’r Dreth Gyngor.

Caiff y taliad ysgogiad ei wneud i ofalwyr presennol a’r rheini a gymeradwywyd yn y dyfodol. Bydd gofalwyr sy’n byw ym Merthyr Tudful, yn cael y taliad wedi ei osod yn uniongyrchol ar eu bil Treth Gyngor. Hwn yw’r budd-dal diweddaraf a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol i wella cadw a recriwtio gofalwyr maeth i gefnogi ei anghenion cyfredol ac i’r dyfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn amcangyfrif fod angen dod o hyd i 25 o ofalwyr maeth newydd i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n dyfod o dan ei ofal. Y gobaith yw bydd y taliad ysgogiad yn cynyddu’r nifer o ofalwyr maeth mewn tŷ sydd gan y Cyngor, gan arwain at leihau’r angen i ddefnyddio llawer mwy o asiantaethau maethu drud.   

Mae gofalwyr maeth y Cyngor eisoes yn gymwys am lu o fudd-daliadau, gan gynnwys ffioedd a lwfansau hael, aelodaeth hamdden am ddim i’r teulu, gostyngiadau pris mynediad i ddyddiau allan ac atyniadau a disgowntiau ar amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau. 

Os ydych chi’n meddwl am ddyfod yn ofalwr maeth neu os hoffech drosglwyddo o asiantaeth arall, cysylltwch â ni heddiw neu ymwelwch â www.fostercwmtaf.co.uk am ragor o wybodaeth.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni