Ar-lein, Mae'n arbed amser
Disgyblion Merthyr Tudful yn fwy hyddysg mewn ‘pynciau bywyd’ yn sgil cynhadledd flynyddol
- Categorïau : Press Release
- 15 Tach 2019
Mae disgyblion Merthyr Tudful yn fwy hyddysg ynghylch pynciau bywyd a sut i ymdopi â hwy yn sgil cynhadledd flynyddol i fyfyrwyr y fwrdeistref sirol.
Rhoddodd Cynhadledd Cyngor Myfyrwyr Uwchradd a Chynradd 2019 gyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a lleisio’u safbwyntiau ar faterion cyfredol yn ogystal â chynorthwyo i hysbysu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Ngholeg Merthyr Tudful ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cam-fanteisio, iechyd meddwl, gwydnwch, bwlio, dietau gwahanol, yr amgylchedd, dathlu amrywiaeth, perthnasau a hiliaeth.
“Mae’n myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r ffaith i’r gynhadledd roi cyfle iddynt archwilio materion bywyd a thrafod sut i ymdopi â hwy,” dywedodd Sarah Bowen, Swyddog Cynhwysiant y Cyngor Bwrdeistref Sirol. “Maent yn gadael, yn teimlo bod ganddynt gwell dealltwriaeth a sicrwydd y byddant yn derbyn cefnogaeth i wynebu unrhyw anawsterau y gallant fod yn eu hwynebu.”
Cafwyd sgyrsiau a gweithdai gan swyddogion o’r Cyngor a phartneriaid o amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys Ysgolion Eco, Heddlu De Cymru, Nyrsys Ysgol, Ysgolion Iach, Anghenion Dietegol, Dangos y Garden Goch i Hiliaeth, y Gwasanaeth Ieuenctid, Trosedd Gasineb, Merthyr Mwy Diogel, Kidscape, Ysgolion Iach a Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful.
Cafwyd hefyd berfformiadau ‘roc a phop’ gwych gan y pedair ysgol uwchradd prif ffrwd.