Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion ym Merthyr Tudful yn dysgu am y locomotif trwy brosiect ysgol, llawn hwyl

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Ion 2020
Trevithick Day 2020

Mae plant ysgol ym Merthyr Tudful yn dysgu am un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y dref drwy brosiect uchelgeisiol, sy’n llawn hwyl ac sy’n cyfuno celf, ysgrifennu creadigol a gwneud ffilmiau.

Fel rhan o ddathliad blynyddol taith locomotif gyntaf y byd a gymrodd le ym Merthyr Tudful ym 1804, mae ysgolion cynradd yn cynhyrchu gwaith celf ac ysgrifennu straeon am Richard Trevithick, peiriannydd a chynllunydd y locomotif.

Mae chwe ysgol gynradd yn cyfranogi: Gwaunfarren, Edwardsville, Troedyrhiw, Caedraw, Ysgol Rhyd y Grug a Bedlinog a bydd y prosiect chwe wythnos o hyd yn cyrraedd ei benllanw ar Ddiwrnod Dathlu Trevithick ar 21 Chwefror.

Mae’r fenter yn cael ei chynnal ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol gan dderbyn cymorth ariannol o £3,000 gan gronfa grant ganolraddol Ffos-y-fran.

Mae’r ysgolion yn dysgu am Trevithick trwy wersi hanes, celf ac ysgrifennu creadigol cyn iddynt gyfranogi mewn ffilm a fydd yn eu dangos yn trafod ac yn siarad â’u teuluoedd ynghylch yr hyn y maent wedi eu dysgu am y dyn a’r digwyddiad.

Byddant hefyd yn mwynhau perfformiad gan Tony Thomas sy’n storïwr ac yn ddehonglwr treftadaeth leol a fydd yn eu harwain ar daith gerdded ar hyd y llwybr sydd gyfochrog â’r dramffordd wreiddiol i Dwnnel Trevithick a safle’r gofeb hanesyddol.

Bu’r disgyblion hefyd yn mwynhau gweithdy gwisgoedd hanesyddol a gafodd ei gynnal gan staff Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, lle y cawsant syniad o sut beth oedd bywyd ym Merthyr Tudful yn y 19eg ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r stori am locomotif Trevithick yn rhan allweddol o hanes diwydiannol Merthyr Tudful ac mae’n wych gweld plant yn dysgu amdano mewn ffordd hwyliog, sy’n llawn gwybodaeth.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni