Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful yn cadw’i wobrau am ragoriaeth ei mannau gwyrdd

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Gor 2019
Cyfarthfa Green Flag

Mae pedwar o fannau gwyrdd blaenllaw Merthyr Tudful a naw o brosiectau cymunedol eraill wedi ennill neu gadw’u Gwobrau Baner Werdd.

Mae Parc Cyfarthfa, Parc Taf Bargoed a Mynwent Aber-fan sy’n eiddo i Gyngor y Fwrdeistref Sirol, wedi cadw’u gwobrau a gyflwynir gan Gadw Cymru’n Daclus ac a ddefnyddir fel marc rhyngwladol i ddynodi ansawdd parciau neu fannau gwyrdd. Derbyniodd Canolfan Goedwig Garwnant, sydd ym meddiant Cyfoeth Naturiol Cymru, wobr lawn hefyd.

Mae Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, y meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd, yn cael ei rheoli gan wirfoddolwyr ac fe’i dyfarnwyd i'r canlynol:

• Parc Nant Llwynog
• Prosiect Gardd Gymunedol Dynion Gurnos
• Pwll Uchaf Penywern - Cymdeithas Genweirio Merthyr Tudful
• Taith Gerdded trwy’r Coetir yn Rhandir y Cilgant Brenhinol
• Gwarchodfa Natur Pontygwaith
• Gerddi Canolfan Gymunedol Dowlais - Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens & George
• Pentref Pontsticill
• Ysgol Babanod Dowlais a’i Gardd Gymunedol
• Gwarchodfa Natur Cilsanws - Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch

Mae Rhaglen y Wobr Faner Werdd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Fe’i beirniadir gan arbenigwyr ar fannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli’u hamser i ymweld â safleoedd yr ymgeiswyr a’u hasesu yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymglymiad y gymuned.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu'r Cyhoedd yn y Cyngor Bwrdeistref Sirol, “Mae’r Faner Werdd yn gwobrwyo ein gorchestion mewn nifer o feysydd, yn enwedig o ran cyrraedd safonau amgylcheddol uchel ac annog gweithgarwch o fewn y gymuned.”

Ychwanegodd, “Mae’n wefreiddiol fod cynifer o’n mannau gwyrdd wedi cael eu cydnabod yn y modd hwn, yn enwedig y safleoedd hynny a reolir gan y Cyngor ac sydd wedi cadw statws eu baneri - Mynwent Aber-fan am yr ail flwyddyn yn olynol, Parc Cyfarthfa am y trydydd gwaith, a Pharc Taf Bargoed am y nawfed tro yn olynol sy’n dipyn o ryfeddod!”

“Rydym hefyd am longyfarch yr holl wirfoddolwyr cwbl ymroddedig ledled y Fwrdeistref Sirol sy'n parhau i greu a chynnal prosiectau gwyrdd hardd er mwynhad eu cymunedau.

"Dylid cyfeirio’n arbennig at yr holl waith caled a wnaed gan Goed Actif Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yng Ngwarchodfa Natur Pontygwaith a Pharc Nant Llwynog – llwyddwyd i gefnogi prosiectau cymunedol sy’n denu pobl allan i fyd natur er eu lles."

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni