Ar-lein, Mae'n arbed amser
Profiad y stryd fawr ym Merthyr Tudful ymhlith y gorau yn y DU
- Categorïau : Press Release
- 16 Mai 2019

Cafodd busnesau ym Merthyr Tudful eu gwobrwyo mewn noson arbennig i gydnabod eu hymdrechion i gynorthwyo i wneud y stryd fawr yn un blith y goreuon yn y DU o ran bodlonrwydd i gwsmeriaid.
Mae’r ymchwil diweddaraf gan gwmni siopwyr cudd, Storecheckers yn gosod Merthyr Tudful ar yr un lefel â rhai o’r canolfannau trefi sy’n perfformio orau yn y wlad. Dyfarnodd aseswyr, a fu’n ymweld â 152 o safleoedd, gyfanswm sgôr o fwy na 80% iddynt.
Cafodd yr ymchwil ei drefnu ar y cyd gan Ardal Gwelliant Busnes Calon Fawr Merthyr Tudful a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol. Defnyddiodd yr arolwg siopwr cudd rai o’r meini prawf manwl canlynol i feirniadu busnesau:
• ymddangosiad cyffredinol tu allan yr adeilad
• ansawdd arddangosfa’r ffenest
• y modd y cafodd cynnyrch eu harddangos y tu mewn
• cyswllt cychwynnol a chroeso
• gwybodaeth o’r cynnyrch
• delwedd y staff
• amgylchedd a’r cyfleusterau tai bach
• gwybodaeth leol
• ffarwelio
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn REDHOUSE Cymru a dyfarnwyd gwobrau mewn tri chategori - Manwerthu, Lletygarwch ac Iechyd a Harddwch a derbyniodd busnesau wobrau platinwm, aur, arian ac efydd.
Dywedodd un asesydd ynghylch y profiad: “Nid oedd unrhyw beth ar unrhyw bwynt y gallwn weld bai arno ynghylch y gwasanaeth. Roedd yr awyrgylch yn gynnes ac roedd y gerddoriaeth gefndirol yn groesawgar. Roedd digon o olau a gwres ac roedd sgyrsiau cefndirol y cwsmeriaid yn hwyliog.”
Cyflawnodd cyfanswm o 13 o fusnesau wobrau platinwm: O2, A Better World Comics & Games, H Samuel, Simon Jones Cars, B & M Express, Tesco Extra, Merthyr Flooring Centre, Ladybirds Hair Centre, 2’s Company (a oedd cynt yn Robert’s), Mon Cheri Hair, Toffs Hair Studio, Trendz of Merthyr a Chaffi Soar. Derbyniodd 112 o fusnesau wobrau aur, arian ac efydd.
Gwnaethpwyd cyflwyniad arbennig ar ran canol y dref i Rob Holdaway, perchennog y ciosg papur newydd yn yr orsaf fysiau ers 40 mlynedd. Wrth gyflwyno Gwobr Arbennig i Gydnabod Busnes Cymunedol, nododd Paul Gray, Cadeirydd Partneriaeth Canol Tref Merthyr Tudful ei ymroddiad i fentrau canol y dref gan gynnwys Partneriaeth Ganol y Dref a PACT dros nifer o flynyddoedd a’i gefnogaeth ddiflino i ddatblygiad ac adfywiad y dref.
Dywedodd Carl Mason, Cadeirydd Calon Fawr Merthyr ei fod yn falch gyda’r nifer gynyddol o fasnachwyr a enillodd wobrau a’r rheini a gyflawnodd y safonau uchaf.
“Mae seremoni heddiw yn tynnu sylw at y profiad a’r gwasanaeth gwych y mae cwsmeriaid yn eu derbyn a’r modd y mae Merthyr yn addasu i heriau’r amgylchedd busnes presennol lle y mae gwasanaeth gwych yn gwbl angenrheidiol ar gyfer llwyddiant y stryd fawr.”