Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cabinet hanesyddol, newydd Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Meh 2022
dan

Am y tro cyntaf erioed yn hanes Merthyr Tudful, mae dros hanner Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn awr yn fenywod.

Mae gan y Cyngor arweinydd newydd, yn dilyn etholiad a Chyfarfod Blynyddol Cyffredinol y mis hwn ac mae tri allan o’r chwe aelod o’r Cabinet yn fenywod a dwy ohonynt yn gynghorwyr newydd. 

Yr Arweinydd yw’r Cynghorydd Geraint Thomas sydd wedi bod yn Ddirprwy Arweinydd yn ystod yr 16 mis diwethaf. Apwyntiwyd y Cynghorydd Julia Jenkins yn Aelod o’r Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cynghorydd Michelle Symonds yn Aelod o’r Cabinet ar gyfer Tai a Diogelu’r Cyhoedd, Trosedd ac Anhwylder.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Dyma’r Cabinet mwyaf amrywiol yn hanes y fwrdeistref sirol.

“Rwy’n falch i weld dau unigolyn talentog ac uchelgeisiol yn ymuno â’n tîm profiadol sydd yn gweithio’n galed ac rydym yn croesawu’r Cynghorydd Andrew Barry i’w rôl fel Aelod o’r Cabinet ar gyfer Llywodraethu ac Adnoddau, y Cynghorydd David Hughes fel Aelod o’r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol a’r Cynghorydd Michelle Jones fel Aelod o’r Cabinet ar gyfer Dysgu.”

Bydd y Cynghorydd Thomas yn cadw’i bortffolio ar gyfer Tai ac Adfywio a bydd y Cynghorydd Barry hefyd yn dyfod yn Ddirprwy Arweinydd.

“Mae’n anrhydedd i fod yn Arweinydd yr awdurdod yn y dref lle y cefais fy magu,” dywedodd y Cynghroydd Thomas. Ei ddiweddar dad oedd Eddie, y bocsiwr enwog a Maer Merthyr ym 1994-95.

“Rwyf wedi dysgu llawer ynghylch gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y bum mlynedd yr wyf wedi bod yn aelod o’r Cyngor ac rwy’n hyderus y byddwn yn parhau i wella ansawdd bywyd ein preswylwyr.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r argyfwng costau byw a bydd agenda gwrth-dlodi yn uchel ar ein rhestr o flaenoriaethau.

“Rydym hefyd yn bwriadu gweithio â phartneriaid er mwyn mynd i’r afael â’r ansicrwydd ynghylch y gwasanaethau bws lleol. Rydyn yn hynod falch o’n cyfnewidfa fysiau ac rydym am i’n preswywlyr wneud y defnydd gorau posib ohono.

“Bydd y Cabinet newydd yn ceisio datblygu ar lwyddiant trawsffurfio’r Cyngor a gweithio ar y cyd â’n swyddogion gwych er mwyn gwneud Merthyr Tudful y gorau y gall fod.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni