Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rôl Merthyr Tudful ym mhrosiect uchelgeisiol llwybrau Rhaglen Ardal yr Iwerydd

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Gor 2019
Taff Trail cyclists

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn chwarae rôl amlwg mewn menter ryngwladol sydd wedi ei hanelu at annog ymwelwyr a phreswylwyr i wneud y mwyaf o’r amgylchedd ar stepen eu drws.

Mae’r Trail Gazers Bid, sef Prosiect Ardal yr Iwerydd a noddir gan yr UE, yn cynllunio dod o hyd i ffyrdd newydd o annog pobl yn y DU, Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc ‘oddi ar y llwybrau ac i mewn i’r cymunedau lleol a gwledig amgylchynol i’w trochi eu hunain mewn profiadau newydd o ran diwylliant, coginio a bywyd.’

Bydd grwpiau cymunedol lleol a rhanbarthol, busnesau bach, darparwyr twristiaeth, ysgolion, asiantaethau amgylcheddol, awdurdodau lleol ac aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddod ynghyd i weithio ar ddatblygiadau gan gynnwys:

• Mentrau busnes i ddefnyddiwr a fydd yn annog ymwelwyr i archwilio’r hyn sydd gan gefnwlad ehangach i’w gynnig, fel caffis, siopau crefft, bwydydd crefftwr, gwestai, tafarndai, lleoedd hanesyddol o ddiddordeb i’r tirlun.

• Mentrau rhith-dwristaidd newydd yn arddangos holl asedau naturiol a diwylliannol y rhanbarth i gynulleidfaoedd ehangach.

• Cynllunio rheoli cyrchfan cynaliadwy sy’n diogelu’r asedau hyn.

Cafodd y prosiect, a lansiwyd yn Buncrana, Sir Donegal, ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae ganddo 10 o bartneriaid o wahanol ranbarthau’r Iwerydd.

“Mae holl bartneriaid y prosiect yn angerddol ynghylch archwilio sut gall y math cywir o fuddsoddi mewn llwybrau cerdded a hamdden dyfu cymunedau bach a chynyddu’r nifer o ymwelwyr,” dywedodd Aelod Cabinet Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Dros y blynyddoedd diweddar gwelwyd twf yn y nifer o bobl y mae’n well ganddynt dreulio eu gwyliau yn mwynhau profiadau mwy ystyrlon a phersonol mewn lleoliadau prydferth sydd yn aml dan ganfyddiad o fod yn anghysbell, yn hytrach na mewn cyrchfannau gwyliau confensiynol neu boblogaidd.

“Cafwyd cynnydd yn y nifer o dwristiaid hamdden sy’n mwynhau’r llwybrau niferus ledled rhanbarth Ardal yr Iwerydd.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod gan y twf mewn cerdded a gweithgaredd hamdden botensial anferthol i gynhyrchu incwm, helpu i greu rhagor o swyddi yn y sectorau lletygarwch a hamdden, tra bo prydferthwch y rhanbarth hefyd yn cael ei fwyhau fel llefydd i fyw, gweithio a ffynnu ynddynt.

“Ein nod ni ym Merthyr Tudful yw canolbwyntio’n benodol ar Daith y Taf a’r amryfal gyfleoedd y mae’n eu cyflwyno – nid yn unig i bobl fwynhau’r golygfeydd godidog, ond hefyd i helpu busnesau gymryd mantais ar y cynnydd mewn traffig i ymwelwyr.”

Os oes diddordeb gennych mewn darganfod rhagor am y prosiect hwn neu sut i gymryd rhan ynddo cysylltwch visit@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni