Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysgolion Merthyr Tudful yw’r cyntaf yng Nghymru i gael profi torfol
- Categorïau : Press Release
- 30 Tach 2020

Bu miloedd o ddisgyblion yn ysgolion cyfun Merthyr Tudful yn treulio’r dydd heddiw (dydd Llun, 30 Tachwedd) yn cael prawf Covid-19.
Cafodd profion â chanlyniad cyflym eu cynnig yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, Ysgol Uwchradd Esgob Hedley, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Ysgol Uwchradd Pen-Y-Dre ac Uned Cyfeirio Tŷ Dysgu fel rhan o raglen profi torfol coronafeirws y fwrdeistref sirol.
Adroddodd y pum ysgol bod tua 80% wedi cael y prawf, a bod rhagor o ddisgyblion am gael eu profi yfory.
Rhoddwyd prawf i tua 90% o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Afon Taf heddiw. O’r 10% sy’n weddill, mae llawer ohonynt mewn dosbarthiadau sydd eisoes yn hunan ynysu yn sgil pedwar achos cadarnhaol yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y Pennaeth, Stuart James, erbyn amser cinio, roedd mwy na 250 o’r 500 o fyfyrwyr y disgwyliwyd eu profi wedi cael canlyniad negyddol.
“Rwy’n meddwl fod disgyblion a rhieni am wybod fel eu bod yn gallu cymysgu’n ddiogel gyda pherthnasau fel mam-gu a thad-cu ac aelodau eraill bregus o’r teulu,” ychwanegodd. “A hefyd am eu bod nhw am chwarae eu rhan nhw i helpu i stopio lledaeniad y feirws.”
Dywedodd fod y disgyblion wedi ‘cydsynio gyda’r broses brofi a’u bod nhw’n hyderus yn ei gylch’ a’i fod yn gyflymach a ddim mor frawychus ag y gallen nhw fod wedi meddwl yn flaenorol.
“Nid ydyn nhw creu ffwdan am yr holl beth. Maen nhw’n teimlo rhyddhad ei fod wedi cael ei wneud a hyd yn oed yn fwy felly pan fo’r profion yn dychwelyd yn negyddol.”
Cyflawnwyd y profi torfol cyntaf mewn ysgol yng Nghymru yn Ysgol Arbennig Greenfield yr wythnos ddiwethaf, a rhoddwyd prawf i bron 80% o’r disgyblion oedran uwchradd yn yr ysgol. Roedd canlyniad pob un yn negyddol.
Dywedodd Sue Walker, Prif Swyddog Addysg y Cyngor ei bod hi’n gobeithio y byddai profi’n helpu i gadw ysgolion ar agor drwy ddynodi achosion asymptomatig pe byddai yna unrhyw rai.
"Os allwn ni gael rhyw fath o broses yn ei le, y nod yw cadw ysgolion ar agor er mwyn parhad o ran dysgu a llesiant emosiynol y disgyblion.”