Ar-lein, Mae'n arbed amser
Merthyr Tudful yn cynnal gŵyl Basg fwyaf y DU ar gyfer plant
- Categorïau : Press Release
- 24 Maw 2021
Mae Merthyr Tudful yn paratoi i groesawu gŵyl Basg rithiol fwyaf y DU, sy’n dechrau yfory (dydd Iau 25 Mawrth) ac yn rhedeg dros wyliau’r Pasg.
Mae Gŵyl Addysgiadol Rithiol ‘Spring into Action’ a gaiff ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens & George mewn partneriaeth â Phrif Swyddog Dysgu’r Cyngor, Sue Walker, yn dechrau am 9.30am, a disgwylir i fwy na 2,000 o blant ysgol ymuno yn yr hwyl.
Bydd awduron, beirdd ac artistiaid yn cynnal gweithdai drwy gydol y dydd a bydd y digwyddiad yn cael ei ddilyn gan helfa lyfrau, gyda llyfrau am ddim ar thema’r Pasg, yn cael eu dosbarthu ledled y fwrdeistref sirol ar feinciau, coed ac mewn parciau, yn aros i gael eu darganfod hyd at ddiwedd y gwyliau.
Dywedodd Sue Walker fod y Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi rhoi £1,000 tuag at yr ŵyl. “Mae’r awdurdod lleol yn falch o barhau ein partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens & George,” ychwanegodd.
“Ers y pandemig, mae’r elusen wedi ymgymryd â nifer o weithgareddau, ynghyd â’r Cyngor a phartneriaid eraill, i sicrhau fod rhai o’r plant mwyaf difreintiedig ledled y fwrdeistref sirol wedi gallu cael mynediad at amrywiaeth eang o lyfrau.
“Mae’r prosiect cyfredol hwn wedi rhoi’r cyfle i bob ysgol ymgysylltu ag awduron plant drwy ddigwyddiadau byw, gan eto hyrwyddo darllen a llythrennedd ac annog plant a phobl ifanc i fwynhau darllen.”
Dywedodd Cydlynydd yr Elusen Helen Hughes: “Penderfynon ni redeg y digwyddiad i ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc mewn addysg drwy awduron a beirdd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Holl ethos yr elusen yw codi dyheadau pobl ifanc a’u dymuniad i ddysgu drwy addysg.”
Diolchodd Helen i’r myfyrwyr trydedd flwyddyn, Sophie Keep a Chloe John - sydd ill dwy’n dilyn gradd BA Anrhydedd mewn Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd ym Mhrifysgol De Cymru - am eu hymwneud gweithredol wrth greu’r prosiect.
Yr awduron a’r artistiaid sy’n gysylltiedig yw Llysgennad Darllen Castell Nedd/ Port Talbot Mike Church, sydd wedi ysgrifennu llawer o lyfrau yn cynnwys nifer o lyfrau lluniau i blant; Osian Grifford, artist nofelau graffig a llyfrau plant; Karla Brading sydd wedi rhith-ysgrifennu ar gyfer blodeugerddi Disney a dwy nofel i blant; a Dan Anthony, sydd wedi gweithio fel sgriptiwr ar The Story of Tracy Beaker ar CBBC a The Baaas ar S4C.