Ar-lein, Mae'n arbed amser
Erlyn menyw o Ferthyr am werthu sigaréts ffug
- Categorïau : Press Release
- 08 Medi 2020
Ar ôl archwiliad i mewn i werthu sigaréts a thybaco ffug dan arweiniad Gwasanaeth Safonau Masnach CBS Merthyr Tudful, erlynwyd Sheila Dallison yn Llys Ynadon Merthyr ar 2 Medi 2020.
Dechreuodd yr archwiliad ar ôl i safonau masnach gael gwybod ym Medi 2019 fod sigaréts anghyfreithlon yn cael eu cyflenwi o gartref Dallison yn Galon Uchaf, Merthyr Tydfil. Cafodd pryniant prawf cudd ei wneud ar 200 sigarets Mayfair a oedd yn ffug a heb eu pecynnu na’u labelu’n gywir ar gyfer marchnad y DU.
Canlyniad hyn oedd cyflwyno gwarant ar eiddo Dallison ble y cafodd bron i 22,000 o sigaréts Mayfair, Marlboro a Richmond eu hatafaelu ynghyd â 7.5Kg o dybaco rholio â llaw Amber Leaf a Golden Virginia.
Ymddangosodd Dallison o flaen Llys Ynadon Merthyr ar 2 Medi ble y plediodd yn euog i’r troseddau o dan Ddeddf Nod Masnachu a deddfwriaeth arall sy’n berthnasol i labeli tybaco. Yn dilyn adroddiadau prawf, cyflwynodd y llys ddirwyon a chostau’n dod i gyfanswm o £1575 a chafodd yr holl sigaréts a thybaco eu fforffedu.
Dywedodd Paul Lewis, Pennaeth Gwasanaethau Diogelu ac Amddiffyn “Mae angen i hyn anfon neges gilir na chaiff gwerthu sigaréts anghyfreithlon ei oddef ym Merthyr Tudful. Rhaid i breswylwyr fod yn ymwybodol nad yw sigaréts o unrhyw fath yn dda iddyn nhw, ond mae sigaréts ffug yn cynnwys lefelau hyd yn oed yn uwch o wenwyn sy’n peri canser nag y mae sigaréts safonol, felly dylai pobl feddwl ddwy waith cyn eu prynu nhw. Mae gwerthu sigaréts ffug hefyd yn niweidio masnach gyfreithlon yn ogystal â’i wneud yn haws i blant gael gafael arnynt.”
Dywedodd Geraint Thomas, Aelod Portffolio dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd “Mae ein tîm safonau masnach yn ymroddedig i fod yn llym yn erbyn tybaco anghyfreithlon. Bydd ein swyddogion yn parhau i archwilio unrhyw un sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon o un ai eiddo manwerthu neu ddomestig ac mae gwerthwyr sy’n torri’r gyfraith yn wynebu cael eu dwyn i’r llysoedd neu wynebu dirwyon neu garchariad. Mewn achosion priodol byddwn hefyd yn defnyddio Deddf Enillion Troseddau er mwyn targedu’r arian a wnaed drwy’r troseddu hwn a chymryd yr arian parod allan o droseddu gan fwrw troseddwyr yn eu pocedi.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch gwerthu nwyddau ffug yn cynnwys tybaco a sigaréts roi gwybod am y mater yn gyfrinachol drwy https://www.merthyr.gov.uk/do-it-online/report/general-reporting-form/ neu ffoniwch 0808 223 1133