Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llwyddiant digwyddiad recriwtio y Mine

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Tach 2022
Mine recruitment event

Roedd diwrnod recriwtio i ddod o hyd i staff i un o fwytai diweddaraf a mwyaf poblogaidd Merthyr Tudful yn llwyddiant ysgubol..

Trefnodd Tîm Cyflogadwyedd y Cyngor y digwyddiad yng Ngholeg Merthyr Tudful ar ran The Mine at CF47 & Castelany's Fine Dining, sy’n chwilio am fwy o staff gweini.

Arwyddodd 14 o bobl i gychwyn gyrfa mewn lletygarwch ar ôl cwrdd â’r perchnogion y Rheolwr Cyfarwydd Stuart James a’r Prif Gogydd Marius Castelany.

“Cawsom sawl ymgeisydd addawol gyda diddordeb mewn swyddi rhan amser a llawn amser,” meddai Marius. “Diolch i’r Cyngor a’r Coleg am eu cefnogaeth, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr. Mae wedi bod yn bleser cwrdd â chyflogai posib newydd!”

Mae The Mine, a agorodd yng nghanol y dref bron i flwyddyn yn ôl yn westy Cymreig Eidalaidd gyda thema pwll glo, bar tapas, bar gwin a lleoliad cerddoriaeth byw.

Mae’n un o’r busnesau i fanteisio o gynllun yn y cyfamser y Cyngor, sy’n cefnogi mentrau newydd i agor mewn adeiladau gwag yng nghanol y dref.

Roedd yr adeilad Cwrt Bowen yn wag, a hwn oedd y 12fed adeilad yng nghanol y dref i’w ailddatblygu fel rhan o Gynllun Treflun Treftadaeth Pontmorlais y Cyngor ers ei lansio yn 2011.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Geraint Thomas: “Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i rai sectorau, yn arbennig lletygarwch i recriwtio staff newydd ar hyn o bryd. I’r perwyl hwn, mae tîm Cyflogadwyedd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i lenwi’r bylchau a dod o hyd i wait hi bobl leol, ac mae ffair swyddi yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful.

“Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniad digwyddiad recriwtioThe Mine, ac rydym yn gobeithio y bydd yn golygu swyddi parhaol a llwyddiant parhaus i’r bwyty poblogaidd hwn.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni