Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwleidyddion bach yn argyhoeddi’r Cyngor fod angen peiriant llenwi potel ddŵr yn yr orsaf fysiau
- Categorïau : Press Release
- 22 Ion 2021

Mae tîm o ddarpar wleidyddion wedi argyhoeddi’r Cyngor i osod peiriant llenwi potel ddŵr yng ngorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful ar ôl iddynt gyflwyno eu syniad mewn cyflwyniad ar-lein.
Gwnaeth saith aelod o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair gymryd rhan mewn cyfarfod Teams gyda’r Maer, y Cynghorydd Howard Barrett a’r Cabinet a’u perswadio pa mor hanfodol yw hi bod dŵr yfed ffres ar gael ar gyfer iechyd a llesiant pobl.
Yr ysgol hon oedd y gyntaf ym Merthyr Tudful i gyflawni Gwobr AUR UNICEF Parchu Hawliau Ysgolion, yn 2018 a gwnaeth y plant 10 ac 11 oed, greu argraff gyda’u dadleuon angerddol o blaid y peiriant.
Ymhlith y Cyngor Ysgol mae’r Cadeirydd Alexis, Lily, Thomas, Saffi, Rio, Ben a Grace. Aethant ati i resymu’r canlynol:
- dylai dŵr fod am ddim ac yn hygyrch i’r digartref a phobl llai ffodus
- dylid gwneud ymdrech i newid yr arferiad o brynu poteli’n ddifeddwl a niweidio’r amgylchedd
- dylai pobl sy’n teithio i mewn ac allan o Ferthyr Tudful gael y cyfle i dorri eu syched wrth deithio ar y bws
- dylai pobl gael eu hannog i leihau faint o siwgr maen nhw’n ei gael drwy yfed dŵr yn hytrach na diodydd llawn siwgr
- byddai gosod peiriant llenwi potel ddŵr yn dda i dwristiaeth leol, gydag ymwelwyr i’r atyniadau lleol a’r rheini sydd allan yn cerdded yn cael y cyfle i dorri eu syched
- pan fo’r caffis ar gau, dylai dŵr yfed fod ar gael yn hawdd heb fod pobl yn gorfod mynd adref
Ar ddiwedd y cyflwyniad, pleidleisiodd y Cabinet yn unfrydol o blaid gosod peiriant llenwi potel ddŵr.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ddysgu, Lisa Mytton, fod y plant wedi creu argraff wych arni hi a’i chyd-gynghorwyr.
“Roedden nhw mor wybodus ac yn mynegi eu hunain yn dda a doedd dim modd peidio â chytuno â’u dadleuon”, ychwanegodd. “Mae’n tawelu’r meddwl wrth ystyried mai’r plant caredig a thrugarog hyn yw dyfodol Merthyr Tudful. Rydym ni oll mewn dwylo da!”
Dywedodd Ross Williams, Rheolwr Prosiect gyda phrif gontractwr yr orsaf fysiau:“Doedd dim darpariaeth yng nghynlluniau gwreiddiol yr orsaf am beiriant dŵr, ond ar ôl gwrando ar apêl y Cyngor Ysgol a gafodd ei chyflwyno’n arbennig o dda, sut allen ni beidio â darparu un?”
“Yn wreiddiol, roedd y disgyblion wedi gofyn am ffynnon ddŵr, ond cytunodd pawb yn ddiweddarach y byddai gorsaf llenwi potel yn fwy hylan o dan yr amgylchiadau presennol. Bydd e hefyd yn well i’r amgylchedd gan leihau gwastraff plastig.”
Dywedodd athro o Ysgol y Santes Fair ac ‘arweinydd balch iawn’ y Cyngor Ysgol, Sarah Thomas: “Hoffwn ddiolch i’r Cabinet am ddod i’r cyfarfod a chynnig y cyfle ffantastig hwn i blant y Cyngor Ysgol gyflwyno eu syniad am beiriant dŵr.
“Rwyf mor hynod o falch o’r plant – ond maen nhw’n dod â balchder i ni bob dydd yn yr ysgol. Roedd y Cabinet yn anhygoel gyda nhw, ac roedd y ffordd wnaethon nhw gynnwys enwau’r plant yn hyfryd. Roeddwn i’n gallu gweld gwên fawr ar wynebau’r plant wrth iddynt gael eu henwi.”
Diolchodd Mrs Thomas hefyd i Ross Williams am ei gysylltiad gweithgar gyda’r ysgol drwy gydol cyfnod adeiladu’r orsaf fysiau.
“Mae llawer o’n disgyblion wedi bod yn ffodus iawn i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau sy’n ennyn diddordeb, gan roi cyd-destun bywyd go iawn yn lleol iddyn nhw o ran adeiladu a pheirianneg,” ychwanegodd.
- Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £11m o arian i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf a gaiff ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, i gydweddu ei buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.
- Disgwylir i’r gwaith ar yr orsaf gael ei gwblhau yn y gwanwyn.