Ar-lein, Mae'n arbed amser

Colli Ysgol. Colli Allan!

  • Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools
  • 21 Hyd 2019
banner copy

Yn dilyn Wythnos Presenoldeb gyntaf Merthyr Tudful llynedd, rydym yn falch iawn i ail-lansio’r ymgyrch yr wythnos hon rhwng 21-25 Hydref 2019.

Rydym ni am fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa pawb, yn ddisgyblion , rhieni, gofalwyr, athrawon – a’r gymuned i gyd – fod presenoldeb yn yr ysgol yn cyfri!  

Wyddech chi...

  • Fod colli 2 ddiwrnod y mis yn unig yn golygu fod plentyn yn colli allan ar 10% o’r flwyddyn ysgol.
  • Mae presenoldeb o 80% ym Mlynyddoedd 7, 8, 9, 10 ac 11 yn gyfwerth â cholli un flwyddyn lawn o ysgol!

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Mytton, Dirprwy Arweinydd CBSMT ac Aelod Cabinet dros Ddysgu: “Mae presenoldeb yn yr ysgol yn rhan hanfodol o daith plentyn. Y mae’n ei osod ar ben ffordd ar gyfer dyfodol llwyddiannus, boed hynny mewn addysg, prentisiaeth neu yn syth i fyd gwaith.

“Gall ysgol feithrin tueddfryd naturiol plentyn tuag at sgiliau penodol neu bynciau penodol a’i helpu i’w arwain at gyflawni ei lawn botensial.

“Mae’r ysgol hefyd yn darparu sgiliau cymdeithasol hanfodol, profiadau a chyfeillgarwch sy’n para ac yn aros gyda rhai drwy gydol eu hoes.”  

“90% o’r llwyddiant yw bod yn bresennol!”

Dywedodd Sarah Bowen, Rheolwr Cynhwysiant CBSMT: “nod Wythnos Presenoldeb yw hyrwyddo pwysigrwydd ysgol ac addysg i bawb. Bydd gweithgareddau’n digwydd yn yr holl ysgolion ym Merthyr Tudful drwy’r wythnos i helpu i hyrwyddo pwysigrwydd y rhain.”

“Addysg yw ein prif flaenoriaeth ac mae wrth galon popeth a wnawn. Rydym am wneud yn siŵr fod pobl ifanc Merthyr Tudful yn derbyn y dechrau gorau mewn bywyd ac rydym yn teimlo fod addysg dda yn helpu i ddarparu hynny.”  

Felly waeth pa mor atyniadol yw cymryd dydd o’r ysgol i brynu’r esgidiau newydd yna, neu i fynd ar wyliau rheolaidd yn ystod y tymor, cofiwch: Mae dysgu yn rhoi cyfleoedd i’ch plentyn – peidiwch â gadael i’ch plentyn golli allan!

Bydd Wythnos Presenoldeb arall yn cael ei chynnal 16 – 20 Rhagfyr 2019. 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni