Ar-lein, Mae'n arbed amser

CBS Merthyr Tudful yn galw ar bobl leol: Bydd Wych, Ailgylcha. Gyda’n gilydd gallwn gael Cymru i rif un!

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Medi 2020
WRAP_BM2_Social_Posts_1920X1080px_Family_ENG MER

Er bod Cymru’n wlad fach, pan mae’n dod i ailgylchu, rydyn ni’n cystadlu gyda’r goreuon. Rydyn ni’n drydydd ar restr ailgylchwyr gorau’r byd, a nawr mae CBSMT yn cefnogi’r ymgyrch Cymru gyfan i’n cael ni i’r rhif un.

Dros y degawd diwethaf, mae ailgylchu yn Merthyr Tudful wedi ffynnu. Rydyn ni bellach yn ailgylchu bron 65% o’n gwastraff, i fyny o 34.43% yn 2010. Ond er mwyn helpu Cymru i gyrraedd y brig, mae angen i ni wneud mwy nag erioed, fel y mae y Cyngh. David Hughes yn esbonio:

“Mae ailgylchu bellach yn ailnatur yn Merthyr Tudful ac mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu bob wythnos. Rydyn ni’n ailgylchu ein croen ffrwythau a llysiau, plisgyn wy, bagiau te a gwastraff bwyd arall yn ein cadis gwastraff bwyd; yn ailgylchu o bob ystafell yn y cartref ac yn ailgylchu’r eitemau lletchwith hynny fel caniau aerosol gwag.

“Fe ddylen ni fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu, ond rhaid i ni ddal ati â’n gwaith da. Gadewch i ni barhau i ailgylchu popeth allwn ni o bob twll a chornel o’r cartref a helpu Cymru i gyrraedd rhif un.”

I ddysgu mwy am yr ailgylchwyr gwych, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau ac ar hysbysfyrddau ac yn y cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru neu ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio’r hashnod #ailgylchwyrgwych

Awgrymiadau ar sut i gael Cymru i rif un

  • Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf o roi hwb i’n cyfradd ailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd – waeth pa mor fach – yn eich cadi bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos
  • Nid dim ond yn y gegin mae ailgylchu – cofiwch ailgylchu yn eich ystafelloedd eraill hefyd. Byddwch chi’n synnu faint o wastraff ystafell ymolchi fel poteli siampŵ, cyflyrydd, sebon a gel cawod y gellir eu hailgylchu
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod modd ailgylchu poteli dŵr, caniau, a phapur a chardbord, ond cofiwch y gallwch chi ailgylchu eitemau mwy anghyffredin hefyd, fel caniau aerosol gwag. Ac os nad ydych chi’n siŵr allwch chi neu na allwch ei ailgylchu, ewch i https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling/
  • Cofiwch wasgu caniau, potiau, tybiau a chynwysyddion i arbed gofod yn eich bag, bin, bocs neu gadis ailgylchu. A rinsiwch nhw’n gyflym cyn eu hailgylchu – does dim angen eu dal o dan y tap, bydd eu swilio nhw’n gyflym yn y bowlen golchi llestri yn gwneud y tro’n iawn
  • Er mwyn i Gymru gyrraedd rhif un, rhaid i ni i gyd chwarae’n rhan. Mae hynny’n golygu lledaenu’r gair ar y cyfryngau cymdeithasol trwy rannu eich lluniau a’ch awgrymiadau ailgylchu gan ddefnyddio’r hashnod #ailgylchwyrgwych

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni