Ar-lein, Mae'n arbed amser

Penodi Arweinydd CBSMT fel Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Awst 2020
Kevin O'Neill (1)

Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Kevin O’Neill, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar ei lwyddiant o gael ei benodi fel Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (y Bwrdd) ar gyfer 2020-21 yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020. Mae’n cymryd lle’r Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, wrth iddo ymddiswyddo o’i rôl ar ôl dwy flynedd fel Cadeirydd.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn gasgliad o sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n cynnwys ardaloedd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Prif rôl y Cadeirydd yw sicrhau fod y Bwrdd yn effeithiol o ran cyflawni’r dasg o osod a gweithredu Cynllun Llesiant Cwm Taf yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, a’i fod yn gweithredu fel prif fforwm arwain strategol ar gyfer cynllunio, comisiynu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ledled ffiniau sefydliadol i gyflawni gwell deilliannau i bobl Cwm Taf. 

Dywedodd y Cynghorydd O’Neill y canlynol am ei benodiad, “Rwy’n falch iawn o gynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y grŵp pwysig hwn ac mae’n fraint ymgymryd â’r Gadair. Dangosodd y Bwrdd eisoes, o dan Gadeiryddiaeth ardderchog yr Athro Longley, yr holl fanteision sydd wrth weithio mewn partneriaeth. Byddaf, wrth weithio gyda chydweithwyr ar y Bwrdd, yn ceisio adeiladu ar y cynnydd a wnaed er budd y cyhoedd.” 

Nodau’r Bwrdd yw:

  • Gwella ansawdd bywyd a deilliannau dinasyddion Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf;
  • Darparu arweinyddiaeth broactif, ar y cyd wrth fynd i’r afael â’r materion mwyaf heriol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus wrth gynllunio, comisiynu a chyflenwi gwasanaethau i ddinasyddion Cwm Taf;
  • Ysgogi deialog, cydlyniant a chydweithredu rhwng sefydliadau lleol, rhanbarthol a’r sector cyhoeddus cenedlaethol i wella ac integreiddio cyflenwi gwasanaeth i’r dinesydd.
  • Cael gwared ar rwystrau drwy isafu biwrocratiaeth ac effeithiolrwydd ataliol ffiniau sefydliadol;
  • Dathlu llwyddiant wrth gyflenwi gwasanaethau i ddinasyddion Cwm Taf;
  • Ystyried ‘gwerth gorau’ a darbodaeth o ran gwariant adnoddau gwasanaethau cyhoeddus ac archwilio ardaloedd ble y byddai cydweithredu / integreiddio yn darparu gwell effeithiolrwydd a gwell deilliannau; a
  • Cynnwys dinasyddion o ran dylanwadu ar sut yr ydym yn dylunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

AELODAU Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn cynnwys arweinwyr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, Interlink RhCT, CBS Merthyr Tudful, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, CBS Rhondda Cynon Taf, Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd Troseddu, Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful a Llywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Bwrdd a’i waith ar wefan y Bwrdd: www.ourcwmtaf.wales

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni