Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad Llyncdwll Nant Morlais 2.12.24

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Rhag 2024
Sinkhole

Diweddariad ar lyncdwll Nant Morlais gan y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

“Ein blaenoriaeth heddiw yw atal llif y dŵr rhag mynd i mewn i’r cwlfert fel bod ein peirianwyr yn gallu gwneud gwaith sefydlogi dros dro i’w atal rhag ehangu ymhellach. Yna gallwn gynnal arolygiad.

“Mae’r llyncdwll wedi deillio o’r swm enfawr o ddeunydd a gafodd ei olchi i lawr o’r mynydd yn ystod Storm Bert. Am tua 6am ddydd Sul 24 Tachwedd clywodd tair aelwyd ar wahân o Nant Morlais swn, y tybient ar y pryd oedd yn daranau. Fodd bynnag, o'n dealltwriaeth ni dyna pryd y digwyddodd y cwymp ac mae wedi cymryd 6 diwrnod i fudo i'r wyneb.

“Rydym yn deall bod trigolion o’r stryd yn awyddus i wybod pryd y byddant yn gallu dychwelyd i’w cartrefi, fodd bynnag ni fyddwn yn gallu rhoi amserlen ar hyn nes bod archwiliad trylwyr o’r cwlfert wedi’i gynnal i ddileu unrhyw risg pellach. . Yn y cyfamser, mae preswylwyr y 29 eiddo a orfodwyd i adael eu cartrefi yn cael eu cefnogi gan ein Swyddogion Tai.

“Diogelwch yw ein llwyr flaenoriaeth.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni