Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi Project Canolfan Dreftadaeth Iddewon Cymreig/Synagog Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Gor 2022
Synagogue

Mae wedi ei gyhoeddi bod y Sefydliad ar gyfer Treftadaeth Iddewig wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (CDLG) a Rhaglen Adfywio Trefi Llywodraeth Cymru am ei gynlluniau i ddatblygu Canolfan Dreftadaeth Iddewig yn hen adeilad Synagog Merthyr Tudful.

Bydd grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o bron i £400,000 ar gyfer gwaith cynllunio'r project a gweithio gyda phartneriaid sefydliadol. Gan dybio bod y Cyfnod Datblygu  yn llwyddiannus, bydd y Sefydliad yn gwneud cais arall i’r Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid pellach.

Mae Rhaglen Trawsnewid Trefi llywodraeth Cymru yn darparu £107,800 o gefnogaeth i’r project o fewn y Cynllun lleoliadau canol y dref, gyda £25k o gyllid ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, sy’n brif gynghorwyr y project.

Yn 2018, cynhaliodd y Sefydliad Astudiaeth Dichonoldeb wedi ei gyllido gan Ymddiriedolaeth Elusennol Muriel a Gershon Coren o archwilio y posibilrwydd o Ganolfan Dreftadaeth yn yr adeilad rhestredig gradd II a ystyriwyd yn risg. Aeth y Sefydliad yn ei blaen i brynu'r adeilad yn 2019 a chynnal gwaith atgyweirio brys yn 2020 gyda chefnogaeth ariannol Ymddiriedolaethau preifat, rhoddion gan unigolion, Cadw a gwasanaeth amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Gweledigaeth y Ganolfan Dreftadaeth fydd cyflwyno hanes, traddodiadau a diwylliant y gymuned Iddewig yng Nghymru sy’n mynd yn ôl dros 250 o flynyddoedd a hefyd ymateb i faterion cyfoes am amrywiaeth grefyddol ac ethnig, hyrwyddo deialog rhwng crefyddau a diwylliannau a tharo dol yn erbyn anwybodaeth a rhagfarn.

Mae hon yn foment fawr i’r project gyda’r syniad o greu Canolfan Dreftadaeth Iddewig yn derbyn cefnogaeth ariannol prif gorff cyllido treftadaeth y DU.

Mae gan y project ei gwefan ei hun - <https://jewishheritage.wales/> sy’n nodi'r 47  Ymgynghorydd a 16 Asiantaeth Partner.  Gerald Jones AS a Dawn Bowden AS yw Llysgenhadon Arbennig y project ac mae Huw Edwards, David Baddiel a Sir Michael Moritz yn noddwyr.

Nododd y Foneddiges Helen Hyde, Cadeirydd y Sefydliad dros Dreftadaeth Iddewig, “ Rydym yn ddiolchgar iawn I Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gydnabod gwerth a phwysigrwydd y project arbennig hwn a fydd yn dweud hanes anhygoel y gymuned Iddewig Gymreig ac yn taclo materion pwysig o fewn Cymdeithas heddiw.”  

Ychwanegodd Stephen Goldman, un o  Ymddiriedolwyr y Sefydliad a Chadeirydd y Pwyllgor Llywio, mae’n gam allweddol ymlaen i’r project blaengar hwn a fydd yn darparu lleoliad addysgol a diwylliannol unigryw. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth sy’n cael ei roi ar gyfer datblygu y rhan nesaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Llywodraeth Cymru.”

Dwedodd Michael Mail, Prif weithredwr y Sefydliad, “ Mae synagog Merthyr yn cynrychioli treftadaeth sy’n cael ei rannu- mae’n stori Iddewig arbennig a stori Gymreig arbennig. Trwy’r gefnogaeth Loteri Genedlaethol bwysig, gobeithiwn arbed adeilad rhestredig, yr adeilad treftadaeth Iddewig bwysicaf yng Nghymru a chynnig datrysiad a fydd yn diogelu ei ddyfodol a gwneud cyfraniad sylweddol i Ferthyr ac i Gymru.”

Dwedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “ Mae’n fraint cefnogi project y Sefydliad Treftadaeth Iddewig gyda grant i ddatblygu ei chynnig o ddarparu Canolfan Dreftadaeth Iddewig Gymreig dwyieithog yn synagog hanesyddol Merthyr Tudful. Bydd y cyllid yma yn galluogi’r Sefydliad I fireinio ei chynlluniau a gwneud cais am gyllid ychwanegol er mwyn gwireddu'r weledigaeth uchelgeisiol.”

Nododd y Cyng. Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Aelod y Cabinet dros Adfywio a Thai: “Mae’r Cyngor yn falch iawn i glywed y newyddion gwych yma am grant Treftadaeth y Loteri a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r synagog yn adeilad o bwys yng nghanol y dref ers dros ddwy ganrif, ac mae’n bwysig bod ei phensaernïaeth unigryw hanesyddol yn cael ei hadfer.

Rydym hefyd yn falch y bydd Merthyr Tudful yn gartref i’r Ganolfan Dreftadaeth Iddewig a fydd yn gyrchfan dwristaidd ychwanegol i’r dref.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni