Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorsaf fysiau newydd yn derbyn peiriant llenwi poteli yn dilyn galw gan ddisgyblion

  • Categorïau : Press Release
  • 31 Maw 2021
Bus station water filler

Mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful wedi derbyn peiriant llenwi poteli dŵr wedi i ddisgyblion mewn ysgol gynradd, leol berswadio Cynghorwyr bod galw amdano.  

Cyfranogodd saith aelod o Gyngor Ysgol, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair mewn cyfarfod ar Teams gyda’r Cabinet er mwyn lleisio’u syniad mewn cyflwyniad ar-lein yn gynharach eleni.  

Yr ysgol oedd y gyntaf ym Merthyr Tudful i dderbyn Dyfarniad AUR Parchu Hawliau UNICEF ar gyfer ysgolion yn 2018 a llwyddodd y deg disgybl 11 oed i berswadio’r Cynghorwyr fod cael dŵr yfed, glân yn yr orsaf yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant pobl.

“Mae’r uned yn awr yn ei lle yn y prif gyntedd,” meddai Ross Williams, Arweinydd y Prosiect ar gyfer y prif gontractwr, Morgan Sindall.  “Mae hyn o ganlyniad i waith caled, angerdd a gwaith tîm Cyngor Ysgol y Santes Fair a’i hymroddiad i newid cadarnhaol.

“Mae Cyngor yr Ysgol wedi gweithio’n galed ar ei gyflwyniad ac wedi ymchwilio pob agwedd yn drwyadl. Roedd arwyddion clir iddynt roi ystyriaeth i bawb, nid hwy eu hunain yn unig ac roeddent yn cynrychioli’r gymuned leol ac eraill.”  

  • Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £11 miliwn i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf sydd wedi ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref er mwyn cydfynd â’r buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd.

Bydd gwaith ar yr orsaf yn cael ei gwblhau ym mis Mai.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni