Ar-lein, Mae'n arbed amser

Lansio prosiect sy’n cynnig gobaith newydd i bobl ifanc ddigartref

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Ebr 2020
Housing First for Young People

Cafodd y prosiect arloesol Tai yn Gyntaf ei lansio ym Merthyr Tudful fel rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd, ac erbyn hyn mae cefnogaeth arbenigol bellach ar gael i bobl ifanc 16-25 oed.

Gyda chymorth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, mae preswylydd cyntaf y fenter Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc wedi symud i’w lety newydd – sef fflat a ddodrefnwyd yn llawn gan Tai Wales & West.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at bobl ifanc sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a byddant hefyd yn meddu ar anghenion cymhleth fel anghenion iechyd corfforol a meddyliol. Gallent fod â hanes o dderbyn gofal neu fod wedi dioddef trawma yn eu bywydau.

Bydd y preswylydd yn cael ei gefnogi gan staff y Cyngor a Llamau, sef elusen ar gyfer pobl ifanc ddigartref. Byddant yn monitro iechyd a llesiant y preswylwyr ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau bywyd a chymryd rhan mewn cyfleoedd addysg a hyfforddiant er mwyn cynyddu’u cyflogadwyedd hyd y gellir.

Unwaith yr ystyrir bod y person ifanc yn barod i symud i’w eiddo annibynnol ei hun, bydd angen iddo gofrestru ar Byw Merthyr Tudful – sef enw’r Gofrestr Tai Gyffredin – ac aros i gael llety.

Cymeradwywyd y prosiect yn dilyn cais i Gronfa Arloesi Ieuenctid Llywodraeth Cymru tuag at benodi Rheolwr Prosiect a chostau staffio eraill.

Bydd yr arian a ddyfernir hefyd yn talu costau cyfalaf i sicrhau y gall pob fflat roi cysur a chyffyrddiad personol. Drwy hynny, gall pob person ifanc leisio barn ynghylch y ffordd y byddan nhw’n cael eu dodrefnu a’u haddurno fel bod eu heiddo’n mynd gyda nhw wrth symud ymlaen ac ymsefydlu mewn cartref newydd.

Dywedodd Sam Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Llamau: “Mae Llamau yn benderfynol o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, ac mae Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc yn rhoi cyfle inni dreialu ffyrdd newydd o leihau’r niferoedd yng Nghymru sy’n profi realiti brawychus digartrefedd.

“Mae’r bobl ifanc yr ydyn ni’n falch o’u cefnogi trwy’r prosiect newydd hwn, yn haeddu cael cartref lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel fel y gallant symud ymlaen â’u bywydau a chyflawni’u potensial llawn.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Rydyn ni’n falch o chwarae rhan mewn prosiect mor arloesol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru trwy gynyddu nifer y cartrefi a ddarparwn ar gyfer prosiectau Tai yn Gyntaf fel hyn. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag asiantaethau cymorth i adeiladu mwy o dai arbenigol a phwrpasol newydd lle bynnag y bo’u hangen.”

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y person ifanc sydd wedi symud i’n cartref yn teimlo’n ddiogel, yn cael cefnogaeth, ac yn falch o gael lle y mae’n gallu’i alw’n gartref am ba hyd bynnag y bydd ei angen arno.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor Bwrdeistref Sirol dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r Awdurdod yn gweithredu’n arloesol gyda Tai yn Gyntaf, ond roedd ein hadolygiad o ddigartrefedd yn dangos bod yna fwlch yn y llety a ddarperir i bobl ifanc ag anghenion cymhleth.”

Bydd darparu’r bobl ifanc hyn â’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw’n annibynnol, yn sicrhau eu bod nhw’n gallu cynnal tenantiaeth, gan leihau a hyd yn oed dileu’r risg o droi’n ddigartref yn y dyfodol.

“Bydd y dull cydweithredol hwn o weithio gyda phobl ifanc hefyd yn caniatáu iddyn nhw drosglwyddo’n llwyddiannus i fod yn oedolion, gwella’u llesiant a’u helpu i ddod yn aelodau gweithgar o’u cymuned.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni