Ar-lein, Mae'n arbed amser
Annog busnesau newydd lleol i wneud cais am grantiau cymorth
- Categorïau : Press Release
- 01 Gorff 2020

Mae busnesau newydd Merthyr Tudful sy'n brwydro i ymdopi ag effaith y Coronafeirws bellach yn gallu gwneud cais am grantiau untro o £2,500 o dan gynllun Grant Dechrau Busnes Newydd Llywodraeth Cymru.
Disgrifir y gronfa £5m fel “bwrsariaeth i gefnogi busnesau newydd yr hunangyflogedig gyda chymorth llif arian ar unwaith i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd COVID-19”.
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y grant hwn os ydych chi'n gymwys i gael, neu wedi derbyn:
- Grant Ardrethi Busnes y Cyngor Bwrdeistref Sirol;
- Cronfa Cadernid Economaidd ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig a Microfusnesau;
- Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig trwy Gyllid a Thollau EM.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Llywodraethu: “Bydd y grant newydd hwn yn cefnogi hyd at 2,000 o fusnesau yng Nghymru, gan ddarparu cyllid hanfodol i bobl a sefydlodd eu busnesau rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020, a help i barhau â’u masnachu trwy gyfnod y pandemig.
“Bydd hyn yn helpu i gefnogi busnesau newydd sydd ar hyn o bryd yn cwympo trwy fylchau’r cynlluniau sy’n cynnig cymorth ariannol.”
Dim ond busnesau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol sy’n gymwys i wneud cais:
- Dyddiad dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020.
- Trosiant blynyddol o lai na £50,000.
- Rhaid eu bod yn gweithredu ac yn cyflogi yng Nghymru.
- Rhaid i fusnesau fod ag o leiaf un neu fwy o’r canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) gan CThEM;
- Rhif Cofrestru TAW neu Dystysgrif Eithrio o TAW.
- Wedi gweld trosiant yn gostwng mwy na 50% o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19 (ers 1 Mawrth 2020).
- Rhaid i fusnesau ddarparu:
- tystiolaeth adnabod (un o’r canlynol): trwydded yrru â cherdyn llun y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; pasbort cyfredol wedi’i lofnodi; tystysgrif geni wreiddiol;
- tystiolaeth o gyfeiriad y busnes trwy Fil y Dreth Gyngor neu Fil Cyfleustodau;
- tystiolaeth o fasnachu gweithredol hyd at 17 Mawrth 2020 trwy ddarparu cyfriflen banc neu gyfriflen ariannol arall (e.e. Paypal).
Mae'r Fwrsariaeth i’r Hunan-gyflogedig Newydd yn agored i geisiadau o 29 Mehefin 2020 am hyd at dri mis. Ymdrinnir â cheisiadau ar sail y cyntaf i'r felin.
Gall busnesau wirio’u cymhwysedd trwy ymweld â gwefan Busnes Cymru https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy