Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bydd Swydd Newydd yn helpu i adeiladu ar gronfa entrepreneuriaid Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Awst 2019
Elliott Evans

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn adeiladu ar ei enw da’n helpu i greu entrepreneuriaid lleol llwyddiannus drwy benodi swyddog i weithio’n benodol gyda’r cyngor.

Mae Elliott Evans wedi dechrau’r rôl newydd o Swyddog Menter Gymunedol a bydd yn annog pobl sy’n mynegi diddordeb i fod yn hunan gyflogedig i fynd amdani - gyda chymorth pecyn cymorth aml-haenog y Cyngor.

Bydd yn gallu siarad drwy gynlluniau arfaethedig ag entrepreneuriaid a’u helpu i symud ymlaen at y cam nesaf gan weithio’n agos at Ganolfan Fenter Merthyr Tudful a’u cyflwyno i aelodau allweddol o’r gymuned.

Ganwyd Elliot ym Merthyr Tudful a bu’n gweithio fel Rheolwr Datblygu Cymunedol Clwb Pêl-droed Tref Merthyr. Ymhlith ei ddyletswyddau oedd rheoli cangen gymunedol y clwb, Ymddiriedolaeth Gymunedol y Merthyron, a lansiodd fenter pêl-droed cerdded hynod o boblogaidd â’r nod o gael pobl dros 50 yn ôl at ymarfer corff.

Ei swydd ddiwethaf oedd Rheolwr Cit ac Offer Clwb Pêl-droed Tref Northampton, ond dychwelodd i Ferthyr Tudful yr haf hwn i ddechrau ar ei swydd fel Swyddog Menter Gymunedol.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae hon yn rôl newydd i’r awdurdod lleol ac yn gyfle gwirioneddol gyffrous i annog rhagor o bobl i archwilio llwybr hunan gyflogaeth.

“Elliott fydd man cyswllt cyntaf y gymuned ar gyfer unrhyw entrepreneuriaid arfaethedig a hoffai drafod eu syniadau â rhywun a fydd yn gwrando’n astud ac yn ceisio helpu i wireddu breuddwydion eu menter.

“Bydd Elliott wedi ei leoli yng nghalon y gymuned ym Merthyr Tudful, a bydd ganddo le yng Nghanolfan Busnes Orbit. Bydd Elliott ar gael i gwrdd ag unigolion yn unigol neu fel grŵp.”

Dywedodd Elliott: “Mae hanes gwych gan y Cyngor o weithio â busnesau sy’n dechrau a’n gobaith yw y bydd y rôl newydd hon yn cydweddu’r gwaith ardderchog a wnaed eisoes. Gall dechrau eich busnes eich hun fod yn brofiad cyffrous a hynod foddhaol ond rhaid i ni sicrhau fod pobl yn derbyn y gefnogaeth orau bosibl.

“Fy nod bersonol yw adeiladu ar y cysylltiadau lleol presennol yr wyf eisoes wedi eu sefydlu drwy fy ngwaith blaenorol, ynghyd â gwybodaeth o’r ardal leol,” ychwanegodd. “Edrychaf ymlaen at annog rhagor o bobl i geisio bod yn hunan gyflogedig fel dewis dichonadwy o yrfa .”

Os hoffech drafod eich cynlluniau ag Elliott, cysylltwch ag e ar 07923 241356, e-bostiwch elliott.evans@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni