Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diwrnod agored i gynllunio ar gyfer lloches nos y gaeaf
- Categorïau : Press Release
- 28 Awst 2019

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gwneud cynlluniau ar gyfer ei loches nos y gaeaf drwy gynnal diwrnod agored yr wythnos nesaf i baratoi ar gyfer y galw posibl oddi wrth bobl sy’n cysgu ar y stryd.
Bydd y digwyddiad yn Eglwys y Tabernacl, Heol Aberhonddu ddydd Mawrth, 3 Medi yn cael ei fynychu gan swyddogion tai, cydlynwyr gwirfoddoli, swyddogion cefnogi a staff hyfforddi yn ogystal â gwirfoddolwyr a phartneriaid gan gynnwys yr heddlu.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu’r Cyngor yn cyflawni arolwg o faterion ledled y fwrdeistref sirol, mabwysiadu strategaeth newydd i’r digartref a chyflwyno prosiect Tai yn Gyntaf - dull gweithredu newydd sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Byddin yr Iachawdwriaeth. Disgwylir gweld Cynllun Tai yn Gyntaf i Ieuenctid yn dechrau yn y dyfodol agos.
“Rydym yn hapus â’r cynnydd a wnaed, ond nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau a buom yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i atal digartrefedd ddigwydd yn y lle cyntaf,” dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas.
“Bu llety nos y gaeaf mewn bodolaeth ers naw mlynedd ac mae’r staff yn wirfoddolwyr ac yn aelodau o sefydliadau crefyddol”, ychwanegodd. “Hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu cefnogaeth i aelodau bregus ein cymuned flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Rydym yn cynllunio ar gyfer eleni i fod yn barod ar gyfer Ionawr 2020 a hoffem wahodd yr holl bartïon sy’n mynegi diddordeb, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned i fod yn bresennol yn y diwrnod agored am 9.30am ar 3 Medi, i fwynhau te neu goffi a darganfod pa gefnogaeth a ddarperir a sut y gallwch helpu.”
- Bydd y lloches ar agor tan ganol mis Mawrth pan fydd y Cyngor yn sbarduno ei Gynllun Tywydd Oer, ond gall gwirfoddolwyr ddefnyddio eu disgresiwn ynghylch pryd y dylai agor ar adegau eraill. Bob dydd pan fo’r lloches ar agor mae angen 9 neu 10 gwirfoddolwr i ofalu am dair sifft: 6-10pm, 10pm-6am a 6-8am. Gofynnir i unrhyw un hoffai gysylltu â Thîm Ateb Tai'r Cyngor ar 01865 725000, e-bost housing@merthyr.gov.uk <mailto:housing@merthyr.gov.uk>