Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dirwyo trefnwyr “cyfarfod ceir” ym Merthyr Tudful am dorri cyfyngiadau coronafeirws

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Rhag 2020
Car meet

Mae trefnwyr “cyfarfod ceir” a ddenodd oddeutu 170 o gerbydau i Ferthyr Tudful wedi cael eu holrhain a’u dirwyo am dorri cyfyngiadau coronafeirws.

Mae Tîm Gorfodi ar y Cyd Cwm Taf Morgannwg (JET), sy’n cynnwys Swyddogion Heddlu De Cymru a Swyddogion Gorfodi Cyngor Merthyr Tudful, wedi bod yn gweithio i gymryd camau ôl-weithredol wrth i nifer fawr o geir ymgasglu y tu allan i Bentref Hamdden Merthyr Tudful ar 29 Tachwedd.

Mae’r safle yn un o’r lleoliadau sy’n cael eu defnyddio fel canolfannau profi torfol ar gyfer y coronafeirws. Galwyd y Swyddogion yno tua 6.30 o’r gloch ar y noson, lle gwelsant gannoedd o selogion ceir a oedd i gyd yn torri rheoliadau Llywodraeth Cymru.

Casglwyd tystiolaeth ar gamerâu corff, cyn i’r torfeydd gael eu gwasgaru.

Ers hynny, mae’r Tîm Gorfodi wedi astudio’r ffilm yn fanwl ac wedi gwneud nifer o ymholiadau i ddod o hyd i drefnwyr y digwyddiad – erbyn hyn, mae chwech ohonynt wedi cael hysbysiadau cosb benodedig. At hynny, mae ymholiadau pellach yn parhau ac mae’n debyg y caiff mwy o ddirwyon eu rhoi i’r rhai a fynychodd y digwyddiad.

Dywedodd Jonathan Duckham, yr Arolygydd Plismona Lleol: “Dangosodd trefnwyr a mynychwyr y digwyddiad hwn ddiystyrwch amlwg tuag at y cyfyngiadau coronafeirws, gan roi eu cariad at geir uwchlaw’r angen i leihau’r risg iddyn nhw eu hunain ac i eraill.

“Hefyd, mae hi y tu hwnt i grediniaeth fod y cyfarfod wedi’i drefnu ar yr union leoliad lle mae profi torfol ar gyfer y coronafeirws yn digwydd, a hynny yn sgil difrifoldeb y sefyllfa leol.

“Rhybuddiwyd unigolion ar y noson y byddai camau gorfodi ôl-weithredol yn dilyn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhai a gymerodd ran yn meddwl yn ofalus cyn mynychu unrhyw ddigwyddiadau eraill o’r fath yn ystod cyfnod y pandemig.

“Achosodd y digwyddiad gryn bryder yn lleol, a gobeithio bod y mesurau hyn wedi tawelu meddwl y cymunedau lleol wrth iddyn nhw weld ein bod yn gweithredu ar eu hadroddiadau a’u pryderon, ac y byddwn ni’n cymryd camau gorfodi lle caiff rheoliadau eu torri’n ddigywilydd neu dro ar ôl tro.”

Ychwanegodd Kevin O’Neill, Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful: “Rydyn ni’n croesawu’r camau gorfodi chwim a gymerwyd gan ein partneriaid yn yr heddlu i ddelio ag ymddygiad cwbl annerbyniol. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru a Phartneriaid Diogelwch Cymunedol eraill i weld pa fesurau ataliol y gallwn eu rhoi ar waith i rwystro achosion o’r fath rhag digwydd yn y dyfodol.

“Nid ydyn ni am labelu na beio’r holl bobl ifanc hynny sy’n rhannu diddordeb mewn chwaraeon moduro neu weithgareddau cyfreithlon eraill sy’n gysylltiedig â cherbydau.

“Mae preswylwyr yn y ward hon o’r dref wedi dioddef o niwsans sŵn, goryrru ac ymddygiad gwrthgymdeithasol am y tair blynedd diwethaf o leiaf, ac rwy’n dawel fy meddwl fod gennym gronfa ddata erbyn hyn o’r rhai a fynychodd y digwyddiad. Rwy’n cefnogi’r dasg o nodi’r troseddwyr hyn yn chwim ac o weithredu’r camau gorfodi yn gyflym ac yn briodol.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni