Ar-lein, Mae'n arbed amser

Achubwyd tylluan diolch i waith cyflym gan breswylwyr a staff

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Gor 2020
Rescued owl

Cafwyd ymateb brys yfory gan breswylwyr a staff Wellbeing Merthyr a’r Cyngor pan welwyd Tylluan Frech wedi’i dal mewn lein bysgota ar yr ynys yn Llyn Parc Cyfarthfa.

Ar ôl i’r cerddwyr Andrea a Nigel Hulbert sylwi bod adain y dylluan wedi’i dal mewn weiar, fe lwyddon nhw i gael gafael ar staff y tir. Yna, aeth y staff mewn cwch achub a hwylio’n gyflym i’r ynys mewn ymgais i achub yr aderyn ifanc oedd mewn trallod.

Fe’i rhyddhawyd o’r lein a’i chludo’n brydlon i feddygfa Medivet yn Georgetown. Ar ôl cael ei harchwilio gan un o’r milfeddygon, cafodd ei rhoi yn y cynelau i orffwys, yn y gobaith o’i rhyddhau yn ôl i’w chynefin ymhen cwpl o ddiwrnodau.

Ceisiodd Andrea a Nigel gael gafael ar yr RSPCA, ond ni chawsant ateb. Felly, fe roesant bost ar ffesbwc yn gofyn am help. Fe wnaeth Colin Lewis (Codwr Sbwriel) roi gwybod i Julian Burns (y Prif Arddwr), Darren Williams (y Tirmon) a Pete Mason (Llafurwr). Yna, fe drefnodd Ian Woolston a Matthew Felton o Wellbeing Merthyr fynediad i’r cwch ac aeth Julian a Pete ati i achub yr aderyn.

Meddai Darren: “Roedd yn hongian o’r weiar mewn coeden. Roedd wedi dysychu ac yn flinedig iawn, ac yn edrych fel y gallai fod wedi bod yno drwy’r nos.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae aelodau Cymdeithas Pysgota Merthyr Tudful yn gweithio’n galed i geisio diogelu’r amgylchedd a’r bywyd gwyllt yn Llyn Cyfarthfa ac fe wnaethan nhw ymateb yn gyflym i’r digwyddiad anffodus a phrin hwn.

“Fodd bynnag, rhaid i bysgotwyr gofio y dylen nhw waredu’u leiniau pysgota yn ddiogel. Hoffwn ddiolch i’n staff ni ac i staff yr Ymddiriedolaeth Hamdden am ymateb mor gyflym i achub bywyd yr aderyn truenus hwn.

“Diolch yn anad neb i’n preswylwyr gwyliadwrus Andrea a Nigel Hulbert am riportio’r digwyddiad ac am aros o gwmpas am ddwy awr i sicrhau bod y dylluan yn cael ei chludo i ddiogelwch. Mae gennym ni’r bobl fwyaf caredig yn byw yma ym Merthyr Tudful.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni