Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bydis Parcio
- Categorïau : Press Release
- 13 Hyd 2020
Mae parcio ger y gât yn broblem i’r rhan fwyaf o ysgolion ym Merthyr Tudful a dyma brif achos cwynion a dderbynnir gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd. Yn ddiweddar gwnaethom brynu 12 Bydi Parcio y gellir eu benthyg i ysgolion i weld pa mor effeithiol ydyn nhw wrth gynorthwyo gyda’r broblem barhaus o barcio anghyfreithlon a pheryglus.
Ar hyn o bryd, mae’r bydis parcio yn Ysgol Gynradd Pantysgallog, Ysgol Gynradd Edwardsville, ac Ysgol Gynradd Gwaunfarren.
Os oes unrhyw ysgol am fenthyg y bydis neu am brynu rhai eu hun, y gellir eu haddasu gyda lliwiau’r wisg ysgol a negeseuon, cysylltwch â’r Adran Diogelwch ar y Ffyrdd yma Engineeringandtraffic@merthyr.gov.uk