Ar-lein, Mae'n arbed amser

Partneriaeth â chontractwyr yr orsaf fysiau yn creu swyddi lleol

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Maw 2020
C4W Morgan Sindall team

Mae partneriaeth rhwng rhaglenni cyflogadwyaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful â’r cwmni sy’n adeiladu gorsaf fysiau newydd y dref wedi creu pedair swydd hirdymor ar gyfer unigolion a oedd, cyn hyn yn ddi-waith.

Yn sgil prosiect Cymunedau am Waith y Cyngor (C4W) menter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynorthwyo pobl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth mae contractwyr Morgan Sindall wedi cyflogi staff newydd i gynorthwyo’r busnes yn ystod y cyfnod adeiladu sydd yn 18 mis o hyd.

Mae Lee Vivian yn gweithio fel ceidwad y gât ac yn sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr; Christine Karanja Jones yw gweinyddwr swyddfa safle Morgan Sindall a chyflogir Ewa Nowakowska fel glanhawraig y swyddfa.

Cyn hyn, roedd Lee, sydd yn 45 oed ac sydd yn breswylydd yng nghanol y dref yn gweithio yn y byd adeiladu, mewn gweithgynhyrchu, adeiladwaith dur a leinio sych ond ac yntau’n ddi-waith, derbyniodd gefnogaeth gan C4W er mwyn diweddaru ei CV a hybu ei sgiliau a’i bersonoliaeth.

Sylweddolodd swyddogion y prosiect fod Morgan Sindall yn edrych am warcheidwad gât. “Roedd gan Lee y bersonoliaeth i weithio ar y rheng flaen a chyfarch pobl,” dywedodd Tina Ryan-Newton Cydlynydd Gweithredol C4W. “Roedd wedi cael trafferth, cyn hyn i ddod o hyd i waith gan nad yw’n gyrru a bod angen iddo fod yn agos i’w gartref. Mae’r cyfle hwn wedi newid ei fywyd ef a’i deulu.”

Cyn hyn, arferai Christine, sy’n 54 oed o Drelewis weithio fel rheolwr ond gadawodd ei swydd yn sgil straen. Derbyniodd gymorth gan C4W i wella ei hyder ac ailgysylltu â’r gymuned wedi iddi ‘gau ei hun yn ei chartref’ am dros flwyddyn.

Bu’n mynychu gweithgareddau llesiant er mwyn gwella ei hunanhyder a derbyniodd gymorth i greu CV, cymorth â thechnegau cyfweliad a cheisiadau am swyddi ac arweiniodd hyn ati’n newid cwrs ei gyrfa a chael swydd fel gweinyddwraig gyda Morgan Sindall sydd yn gwella ei chydbwysedd gwaith/bywyd.

Dywedodd Christine: “Mae Cymunedau am Waith yn gwneud gwaith ffantastig er mwyn cynorthwyo pobl sydd ag amrywiaeth o rwystrau i gyflogaeth ac ni allaf ei ganmol ddigon. Mae pobl wych yn eich atgoffa o ba mor wych y gallwch chi hefyd fod!”

Mae Ewa sy’n 43 ac sydd yn hanu o Wlad Pwyl yn awr yn byw yn y Gurnos ac roedd yn gyfranogwr hirdymor â C4W. Cwblhaodd ein rhaglen ‘Ein Clwb’ ac enillodd gymwysterau gwaith ychwanegol fel Diogelwch Bwyd Lefel 2 ac Ymwybyddiaeth COSHH (Uwch.)

Derbyniodd gymorth i fynychu nifer o gyfweliadau ac ysgrifennu llythyrau personol/gohebiaeth. Daeth cyfle iddi ymuno â Morgan Sindall wedi i Tina Ryan-Newton a oedd yn ymwybodol o ymdrechion Ewa i ddod o hyd i gyflogaeth, sôn amdani wrth gynrychiolydd. Yn sgil hyn, cafodd gyfweliad a chynnig swydd.

Dywedodd Ewa: “Mae’r swydd yn wych ac rwy’n gweithio â phobl garedig sy’n fy nghynorthwyo ac sydd yn ystyriol wrth esbonio pethau i mi. Rwy’n hapus iawn o gael y swydd hon.”

Preswylydd lleol arall sydd hefyd yn gweithio ar yr orsaf fysiau yw Kian Stephens sydd yn 17 oed ac sydd wedi ei apwyntio fel peiriannydd safle o dan hyfforddiant drwy gynllun prentisiaeth Morgan Sindall. Mae’n gyfrifol am osod a rheoli’r gwaith ar y safle. Disgrifiodd Kian y cyfle fel ‘dechrau gwych’ i’w yrfa yn y byd adeiladu.

Dywedodd Ross Williams, Rheolwr Prosiect Morgan Sindall: “Mae ymgysylltu â’r cymunedau lle yr ydym yn gweithio yn hollbwysig i Morgan Sindall ac rydym wrth ein bodd, gyda chymorth Cymunedau am Waith, i ganfod y fath dalent.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein portffolio o bobl leol sydd yn ymgysylltu â’r prosiect cyffrous hwn.”

• Mae Cymunedau Am Waith yn darparu amrywiaeth eang o gymorth er mwyn dod o hyd i gyflogaeth sy’n cynnwys hyfforddiant am ddim, profiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli, cymorth â cheisiadau ar gyfer swyddi a chymorth a chefnogaeth â theithio, gofal plant a chyfrifoldebau gofal. Os ydych chi o’r farn y byddai’r prosiect o fudd i chi, ffoniwch 01685 725364/727303, neu e-bostiwch cfw+@merthyr.gov.uk

Pennawd y llun

O’r chwith, , Lee Vivian, Tina Ryan-Newton, Christine Karanja Jones, Ewa Nowakowska, Kian Stephens a Ross Williams.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni