Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae gweithio mewn partneriaeth yn sicrhau bod canol y dref ar agor i fusnes ac yn ddiogel
- Categorïau : Press Release
- 23 Gor 2020
Mae canol tref Merthyr Tudful yn gweithredu’n ddiogel unwaith eto, diolch i bartneriaeth a luniwyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol, busnesau a’r heddlu.
Mae’r Cyngor, Calon Fawr Merthyr Tudful, Canolfan Siopa Santes Tudful a Heddlu De Cymru Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, wedi gwneud eu gorau glas i sicrhau bod siopwyr sy’n dychwelyd i ganol y dref yn teimlo’n ddiogel yno.
Mae’r Awdurdod Lleol wedi rhoi cyfarpar diogelu personol gan gynnwys menig, hylifau diheintio dwylo, masgiau wyneb, feisorau a sticeri llawr, i fwy na 50 o fusnesau gan gynnwys manwerthwyr, trinwyr gwallt, tafarndai a chaffis.
Codwyd arwyddion a gosodwyd marciau llawr ledled y dref i atgoffa pobl i gadw’u pellter. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud yn yr Orsaf Fysiau i gael gwared ar rwystrau er mwyn cynnal pellter cymdeithasol a llif y cerddwyr.
Mae swyddogion yr heddlu allan o gwmpas canol y dref, yn sicrhau diogelwch y cerddwyr ac yn helpu i gynnal pellter cymdeithasol. Maen nhw hefyd wedi dosbarthu hysbysiadau rhybuddio i unrhyw gerbydau sy’n parcio neu’n gyrru trwy ardal y cerddwyr.
Trwy gydol mis Gorffennaf, mae’r Cyngor, Calon Fawr Merthyr Tudful a Chanolfan Siopa Santes Tudful yn cynnal ymgyrch farchnata i annog preswylwyr ac ymwelwyr yn ôl i ganol y dref trwy negeseuon gan gynnwys:
- Cofiwch fod yn garedig - dydych chi byth yn gwybod beth mae rhywun wedi’i brofi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf
- Os ydych chi mewn ciw, dechreuwch sgwrs
- Byddwch yn amyneddgar gyda’r un sy’n eich gwasanaethu
- Ewch i siopau annibynnol
- Cadwch yn ddiogel er eich mwyn eich hun ac eraill
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Gan weithio gyda’i gilydd, mae’r pedwar sefydliad wedi paratoi canol y dref i gyd fel y gall ailagor yn ddiogel ac yn hyderus.
“Erbyn hyn, rydyn ni’n annog ein preswylwyr i ddod yn ôl i’r Stryd Fawr a helpu ein busnesau i adfer a ffynnu unwaith eto.”