Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pobl yn cymdeithasu ag aelwydydd eraill dan do yn gyrru heintiau feirws

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Hyd 2020
Drinking in a pub

Mae cymdeithasu â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, partïon mewn tai a diffyg cadw pellter cymdeithasol yn gyrru cyfraddau trosglwyddo ar draws Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae data o'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn dangos bod trosglwyddiad y coronafeirws yn cael ei yrru gan bobl sydd ddim yn dilyn y rheolau presennol er mwyn cyfyngu lledaeniad y coronafeirws. Mae'r bobl yma'n cymdeithasu mewn cysylltiad agos â phobl sydd ddim yn byw gyda nhw mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys eu gweithleoedd a lleoliadau lletygarwch, ac yn cynnal partïon mewn tai, sydd ddim yn cael ei ganiatáu o dan y cyfyngiadau cyfredol.

O dan reolau'r cyfyngiadau symud lleol, does dim hawl cwrdd dan do gydag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda nhw.  Caiff pobl eu hannog i beidio â chrwydro tafarndai ac ymweld â sawl lleoliad hefyd, gan fod hyn nid yn unig yn cynyddu'r siawns y bydd pobl yn dal y coronafeirws, ond hefyd yn cynyddu'r risg o'i ledaenu yn y gymuned. Rhaid i bobl gadw pellter corfforol pan fyddan nhw yn y gwaith a phan fyddan nhw'n cymdeithasu y tu allan i'r gwaith.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob lleoliad trwyddedig gymryd manylion cyswllt pawb sy'n dod i mewn i'w lleoliad fel bod modd i'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu weithredu'n gyflym os oes risg y gallai pobl mewn lleoliad fod wedi bod yn agored i'r coronafeirws. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i dafarndai a chlybiau weithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol, fel cadw pellter o leiaf 2 fetr rhwng pobl sydd ddim yn byw gyda'i gilydd, gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig, dim cerddoriaeth uchel, ac atal gwerthu alcohol erbyn 10pm.

Mae’r mwyafrif llethol o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf yn gweithio'n galed i gydymffurfio â'r rheolau a chadw eu cwsmeriaid a'u staff yn ddiogel. Mae Swyddogion Trwyddedu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda'r fasnach drwyddedig i'w cefnogi i gydymffurfio.

Mae partïon mewn tai hefyd yn bryder i iechyd y cyhoedd. Gall y partïon mewn tai hyn fod rhwng aelodau o'r teulu sydd ddim yn byw gyda'i gilydd, rhwng cymdogion a ffrindiau, yn ogystal â phartïon pen-blwydd a dathliadau eraill.

O dan y cyfyngiadau symud cyfredol, chaiff yr achlysuron hyn ddim eu caniatáu dan do, a hyd yn oed os yw'n digwydd yn yr awyr agored, rhaid bod uchafswm o 30 o bobl, rhaid cadw pellter cymdeithasol o leiaf dau fetr, a rhaid sicrhau hylendid dwylo da. Mae tystiolaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod llai o fesurau amddiffyn iechyd mewn cynulliadau cymdeithasol lle mae pobl yn teimlo'n gyffyrddus, gyda phobl yn llai tebygol o gadw pellter cymdeithasol, yn enwedig wrth yfed alcohol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae hon yn duedd wirioneddol bryderus yr ydym yn ei gweld ledled y rhanbarth, ac mae angen ei dwyn o dan reolaeth.

“Rydyn ni wedi bod o dan gyfyngiadau symud lleol ers tair wythnos bellach, a dydyn ni ddim yn gweld nifer yr achosion yn gostwng ar y gyfradd y dylem fod yn ei gweld - rydyn ni'n dal i gadw lefelau uchel o haint.

“Rydyn ni hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r cynnydd pryderus mewn achosion sy'n gysylltiedig â phartïon mewn tai a chyswllt cymdeithasol, ond mae angen cefnogaeth y gymuned arnom i wneud hyn yn effeithiol. Os ydych chi'n teimlo bod iechyd eich cymuned yn cael ei roi mewn perygl, rhowch wybod amdano.

“Mae pobl yn Rhondda Cynon Taf a ledled y rhanbarth yn gweithio’n galed iawn i gadw at y rheolau, ac yn aml yn colli allan ar bethau sy’n bwysig iddyn nhw a’u teuluoedd.

“Mae Swyddogion y Cyngor yn gweithio saith diwrnod yr wythnos, mewn partneriaeth agos â Heddlu De Cymru, i gynorthwyo busnesau i gydymffurfio ac yn mynd i'r afael yn gyflym â’r rhai sydd ddim yn cadw at y rheoliadau cyfredol. Mae cyfrifoldeb gan bob un ohonom i gadw ein cymunedau'n ddiogel. ”

Meddai'r Cynghorydd Kevin O'Neil, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:  “Mae'r ffigurau'n dweud cyfrolau ac mae pryder cynyddol ynghylch sector yr economi gyda'r nos. 

“Mae'r mwyafrif o dafarndai a chlybiau'n gyfrifol, fel y mae'r mwyafrif o bobl, ond unwaith eto mae nifer fach yn ei ddifetha i eraill.

“Gan fod y dystiolaeth gynyddol yn tynnu sylw at y rhai sy’n cymdeithasu a chynnal partïon, mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod modd i bartïon mewn tai arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac nid nawr yw'r amser ar gyfer hynny.  

“Cadwch at y rheolau a helpwch ni i gadw ysgolion a busnesau ar agor ac, wrth gwrs, amddiffyn yr henoed a’r rhai sy'n agored i niwed.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Alla i ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw dilyn canllawiau'r pandemig er mwyn cadw eich hun, eich ffrindiau, eich teulu a'ch cymuned yn ddiogel.

“Bydd yr ymdrech a wnawn ni nawr yn allweddol wrth benderfynu a oes rhaid i gyfyngiadau cyfredol y pandemig barhau, a oes modd eu llacio, neu a oes angen eu dwysáu er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu.

“Mae llawer o drigolion eisoes yn gwneud ymdrech enfawr i droi’r llanw yn erbyn y feirws, felly peidiwch â gadael i’r ymdrech honno fynd yn wastraff - helpwch ni i’ch helpu chi, gan chwarae eich rhan yn y frwydr yn erbyn Covid-19.”

Mae modd i unrhyw un sy'n bryderus am fusnesau neu drigolion sydd ddim yn cadw at reoliadau cyfredol y coronafeirws roi gwybod am y lleoliadau ar-lein yma:

Os ydych chi'n poeni bod parti mewn tŷ yn digwydd yn erbyn rheolau cyfredol y cyfyngiadau symud, mae modd i chi roi gwybod i Heddlu De Cymru am y rhain trwy ffonio 101 neu roi gwybod ar-lein yma:

Mae modd gweld manylion llawn y cyfyngiadau symud lleol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn www.llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni