Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyfle i chi nodi ble i wella ein map rhyngweithiol teithio llesol!
- Categorïau : Press Release
- 05 Maw 2021
Mae cyfle gan breswylwyr Merthyr Tudful sy’n defnyddio teithiau cerdded a seiclo wrth fynd o gwmpas y fwrdeistref sirol i’n helpu ni ei wella.
Heddiw (dydd Gwener 5 Mawrth), mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn un o nifer o awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n lansio map rhyngweithiol i gasglu safbwyntiau oddi wrth gymunedau am gyflwr llwybrau cerdded a seiclo lleol.
Mae’r Map Teithio Llesol drafft (y Map) yn gynllun 15 mlynedd fel rhan o fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i leihau teithiau a chynyddu’r rheini a wnaed gan gerddwyr a seiclwyr, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio sgwter symudol. Mae hyn yn cynnwys teithiau i’r ysgol, gwaith a’r siopau, neu i gael mynediad at wasanaethau fel canolfannau iechyd a hamdden.
Caiff y wefan ei rhedeg gan y llwyfan ymgynghori ar-lein, Commonplace, sy’n galluogi pobl i glicio a phwyntio’n fanwl at y mannau ble yr hoffen nhw weld gwelliannau.
Gallai’r mannau hyn fod yn llwybrau y torrir ar eu traws, neu lwybrau sy’n teimlo’n anniogel – am nad oes yno fannau croesi na chyrbiau disgynedig, neu am fod ceir wedi eu parcio ar y palmant – neu efallai bod diffyg llwybrau ble y mae eu hangen.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Rydym yn gwybod, yn sgil ein harolygon ein hunain, fod y pandemig wedi arwain at gynnydd enfawr yn y nifer o bobl sydd allan yn cerdded ac yn seiclo, yn enwedig ar hyd ein llwybrau lleol.
“Felly rydym am fanteisio ar y wybodaeth leol honno tra bo pobl yn ymwybodol ohoni. Oes yna lefydd sy’n anodd o ran teithio llesol? Oedd yna ardaloedd ble doedden nhw ddim yn teimlo’n ddiogel? Oes yna unrhyw lefydd ble nad oedden nhw’n gallu parhau â’u teithiau? Oes yna deithiau ble yr hoffen nhw gerdded a seiclo, ond nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny?
“Bydd y wefan hon yn ffurfio rhan bwysig o wella darpariaeth teithio llesol, gan dorri lawr ar draffig dianghenraid a helpu teuluoedd i fynd o gwmpas yn ddiogel, gan wella ansawdd yr aer a gwneud lleoedd ble yr ydym yn treulio amser ar ein teithiau dyddiol, yn fwy deniadol.”
Felly dyma gyfle i chi ddweud eich dweud drwy glicio ar ardal rydych yn ei hadnabod yn dda i ddweud wrth y cyngor ble y gellir gwella llwybrau cerdded a seiclo. Nodwch gynifer o sylwadau ag yr hoffech chi achos bydd pob syniad sydd gennych yn helpu i lywio cynlluniau’r cyngor ar gyfer gwneud gwelliannau.
Os fydd pobl eraill yn cytuno, byddan nhw’n gallu dangos hyn a’n galluogi ni i adeiladu darlun o’r ardaloedd sy’n cael blaenoriaeth o ran gwelliannau. Nodwch eich holl ystyriaethau, un ar y tro – gan feddwl am ble y gallai pethau fod yn well i alluogi pobl i gerdded neu seiclo’n fwy diogel o gwmpas eich cymdogaeth neu weithle.
Caiff yr holl adborth a dderbyniwn o’r ymgynghoriad hwn ei ddadansoddi a’i ystyried wrth i ni gynhyrchu rhifyn nesaf y Map Rhyngweithiol Teithio Llesol (y Map) ar gyfer Merthyr Tudful.
Mae’r Map yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ei gyflwyno i’r Gweinidog Trafnidiaeth yn ddiweddarach eleni i’w gymeradwyo. Ar ôl ei gymeradwyo, byddwn yn gallu gwneud cais am arian oddi wrth Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i weithredu’r cynigion ar y map.
Cliciwch ar y ddolen hon i gymryd rhan https://merthyrtydfil.commonplace.is/