Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cadwch eich pellter ar ein llwybrau a’ch sbwriel oddi arnynt

  • Categorïau : Press Release
  • 24 Rhag 2020
Trails appeal

Mae’r Cyngor yn apelio ar gerddwyr, beicwyr, rhedwyr ac unrhyw un arall sy’n defnyddio ein rhwydwaith o lwybrau yn ystod y cyfnod clo, i sicrhau eu bod yn cadw pellter cymdeithasol - ac yn mynd â’u sbwriel adref.

Mae arolwg a gynhaliwyd gan ein swyddogion wedi datgelu bod nifer y bobl sy’n defnyddio Taith Taf yn ystod y cyfnod clo cyntaf a’r cyfnod atal byr, wedi codi o leiaf 80% o’i gymharu â’r un cyfnodau yn 2019.

Yn naturiol, bu’r preswylwyr hynny oedd ond yn cael ymarfer corff o fewn radiws o bum milltir, yn manteisio i’r eithaf ar Deithiau Taf a Trevithick.

Fodd bynnag, gyda’r twf yn y niferoedd daeth cynnydd cyfatebol yn y sbwriel a adawyd ar ôl, gan roi pwysau ychwanegol ar y timau gorfodi hynny sy’n ymwneud â glendid strydoedd, hawliau tramwy a gwastraff. Ar ben hynny, roedd yn difetha’r dirwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydyn ni’n lwcus iawn ym Merthyr Tudful i gael cefn gwlad hardd ar garreg ein drws heb orfod teithio’n bell i’w gyrraedd.

Ychwanegodd: “Fe wyddom fod cael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo wedi bod o gryn fendith i bobl o ran eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Ac mae’r llwybrau yn debygol o fynd yn brysur iawn dros wyliau’r Nadolig.

“Gall tagfeydd ffurfio ar y llwybrau hyn ar brydiau, felly rydyn ni’n gofyn i breswylwyr gadw pellter cymdeithasol - a mynd â’u sbwriel adref gyda nhw a glanhau ar ôl eu cŵn.

“Rwy’n erfyn arnoch i ddilyn y Cod Cefn Gwlad – amddiffynnwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref, cadwch gŵn dan reolaeth agos a chodwch eu baw. Mwynhewch ein cefn gwlad - peidiwch â’i ddinistrio.”

#OurCountryside #EnjoyDon’tDestroy

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni