Ar-lein, Mae'n arbed amser

Defnyddiwch y Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan!

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Awst 2020
Eat Out to Help Out
Mae’r Cyngor yn erfyn ar ein preswylwyr i helpu ein tai bwyta, tafarndai a chaffis i fwyta ynddynt drwy ddefnyddio ein Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan.
Gallwch gael gostyngiad o 50% ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i fwyta neu yfed yn y lleoedd hyn, hyd at uchafswm o ostyngiad o £10 am bob bwytäwr, am bob pryd – bob dydd Llun, Mawrth a Mercher rhwng 3 a 31 Awst, gymaint o weithiau ag yr hoffech. 
Y nod yw helpu busnesau a oedd wedi cau yn ystod cyfnod clo coronafeirws drwy annog cwsmeriaid i fwyta yn y lleoedd hyn, fel eu bod yna’n gallu hawlio’r arian yn ôl gan y Llywodraeth.
Nid oes angen taleb arnoch i ddefnyddio’r cynllun hwn a gallwch ei ddefnyddio ar yr un pryd a chynigion a gostyngiadau eraill. Bydd y gostyngiad yn cael ei gymryd oddi ar eich bil yn awtomatig.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Gwyddom fod ein tai bwyta, tafarndai a chaffis wedi cael amser gwirioneddol galed dros y pedwar mis diwethaf.
“Rydym am helpu i sicrhau y byddant yn goroesi, felly rydym yn annog ein preswylwyr i gymryd mantais o’r cynllun hwn i’w cefnogi. Prisiau hanner pris am dri diwrnod o’r wythnos am fis cyfan? Mae hwn yn gynnig rhy dda i’w anwybyddu!
“Rydym hefyd am annog y busnesau hynny nad ydynt wedi cofrestru eto, i wneud hynny.”
Ac i gofrestru, cliciwch yma:

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni