Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llwybr Tsili Pontmorlais

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Meh 2019
Pontmorlais Chilli Trail

Mae masnachwyr yn ardal fwyaf hanesyddol canol tref Merthyr Tudful yn gynnes gofleidio dull goginio’r 21 ganrif drwy gadw oed â dyddiad poethaf y calendr digwyddiadau blynyddol.

Y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 22 Mehefin) fe welwn Gŵyl Stryd Tsili Merthyr yn gartref i rai o’r cynhyrchwyr tsili gorau o bob rhan o’r DU, yn arddangos rhai o’r nwyddau tsili gorau gan gynnwys sawsiau coginio naga, planhigion tsili, siocled a nwyddau tsili.

Mae’r ŵyl yn digwydd yn Sgwâr Penderyn a bydd y stondinau stryd yn cael eu cydweddu â ‘Llwybr Tsili Pontmorlais’, ble y gellir dod o hyd i hyfrydwch pupurol pellach dan do mewn pedwarawd o adeiladau sydd newydd eu hailwampio’n brydferth.

Mae Caffi Soar, sy’n darparu bwyd a diod o ansawdd yng Nghanolfan a Theatr Soar – y ganolfan fywiog i’r celfyddydau, cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg – yn cyflenwi sawsiau sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol gan Chilli of the Valley, cwrw lleol Bragdy Twt Lol ac amrywiaeth o gynnyrch Cymraeg eraill. Dyma’r unig le hefyd sy’n cyflenwi saws tsili Tinboeth gan Chilli of the Valley.

Bydd bwyty hynod boblogaidd Mammo’s Proper Fish & Chips yn rhoi’r cyfle i’r rhai sy’n caru tsili fwyta cytew tsili ar eu pysgod – ysgafn a chras â jest digon o tsili i fywiogi’r blas – hefyd bydd caws Halloumi llai tanllyd â dip tsili melys i’w fwynhau.

Bydd Portugalles, sy’n cynnig gwir flas Portiwgal ym Merthyr, yn gweini’r bwyd ffres o ansawdd arferol, byrbrydau, coffi, cwrw a gwin. Mae’r tŷ bwyta hefyd yn gweini ei rysáit unigryw o Gyw Iâr Piri Piri Portiwgeaidd.

Bydd un o dafarndai hynaf Merthyr Tudful, yr Angor, yn cynnig diod fodern iawn ochr yn ochr â’i dewis arferol o gasgliad o gwrw lleol a gwin. Yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl Tsili, bydd staff yn creu cymysgedd o Goctêl Gwres Melys, sef fodca, sudd pîn afal, surop a jalapeño. Caiff y diod ei gweini mewn balwn jin gyda sleisen o sinsir fel garnais ac olwyn leim am awch.

Bydd Gŵyl Stryd Tsili Merthyr yn rhedeg o 10am tan 5pm a bydd mynediad am ddim.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni