Ar-lein, Mae'n arbed amser
Premises Closure Order for property in Twynyrodyn
- Categorïau : Press Release
- 22 Tach 2019

Heddiw, llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ar y cyd â Heddlu De Cymru, i gael Gorchymyn Cau Safle yn Llys Ynadon Merthyr Tudful mewn perthynas â 46 Gilfach Cynon, Twynyrodyn, Merthyr Tudful.
Lluniwyd y Gorchymyn yn unol â deddfwriaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn delio â niwsans yn y safle a grëwyd gan ddynion yn galw yno’n gyson at ddibenion rhywiol. Dygwyd yr achos hwn o ganlyniad i bryderon a godwyd gan y gymuned. Bydd y Gorchymyn yn peri ei bod hi’n drosedd i unrhyw bersonau fynd i mewn i’r eiddo am gyfnod o 3 mis.
Dywed Paul Lewis, Pennaeth Amddiffyn a Diogelwch Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, “Trwy ein Partneriaeth Diogelwch Cymunedol effeithiol, roedden ni’n gallu ymateb i bryderon ein cymunedau a chymryd camau effeithiol ar unwaith i gau’r eiddo.”