Ar-lein, Mae'n arbed amser
PRIDE 2020: Mae Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru wedi cyrraedd!
- Categorïau : Press Release
- 25 Awst 2020
Er bod y rhan fwyaf o wyliau’r haf wedi eu canslo oherwydd y pandemig Coronafeirws, mae Pride Cymru wedi bod yn gweithio’n ddiflino i fynd â dathliad mwyaf Cymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth - ar-lein!
Fel rhan o rwydwaith Cynghorau Balch, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil yn hynod falch o noddi "The Rainbow United", trafodaeth banel wedi ei llywyddu gan gadeirydd Glitter Cymru gyda phanelwyr o’r cymunedau Deurywioldeb, Trawsrywioldeb, BAME, LGBT+ Anabl, LGBT+ Sipsiwn Romani a HIV+ yn cael eu cynrychioli. Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gall gwahanol rannau o’r gymuned fod yn well cynghreiriaid a rhoi cymorth i’w gilydd, gyda llawer o brofiadau personol yn cael eu trafod.
Mae Glitter Cymru yn grŵp cyfarfod cymdeithasol ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) sy’n Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+). Gallwch ddysgu mwy am y grŵp a’u haddewid i fod yn #WELLCYNGHREIRIAID yn https://www.facebook.com/GlitterCymru/
Mae digwyddiadau difyr eraill sy’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cynnwys:
- Cynnydd a Gwleidyddiaeth – Dyfodol Tecach i Bobl LGBT+ yng Nghymru – gyda’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt AS, Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS a’r Gweinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Julie James AS.
- Un Ohonynt – sgwrs rhwng Jeremy Miles AS a Michael Cashman
- Hunaniaeth Rhywedd a Rhyngblethedd – Pam y mae’n Bwysig – gyda GIG Cymru.
- Sgyrsiau am Drosedd Casineb – gyda Chymorth i Ddioddefwyr
Wrth gwrs mae yna hefyd ddigon o adloniant ysgafnach a hwyl ar gael, gan gynnwys Pride Rhithwir LGBTQIA+ Byddar Cymru gyda’r Hwb Byddar (Cymru), Cwis MAWR Pride Cymru, Awr Stori Brenhines Drag, sesiynau chwaraeon i blant a thiwtorial colur!
I gael y rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru, ewch i: https://www.pridecymru.com/festival/perform-at-pride/
Partneriaeth o Gynghorau De Cymru sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi materion Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (‘LHDT) a hyrwyddo cynhwysiant Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (‘LHDT) yw 'Cynghorau Balch'. Mae'r Rhwydwaith Cynghorau Balch yn cynnwys y Cynghorau canlynol - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, RhCT, Torfaen.
Pwrpas 'Cynghorau Balch' yw gwella'r cymorth sy'n cael ei gynnig i staff LHDT+ sy'n gweithio i awdurdodau lleol yng Nghymru, a sicrhau bod gwasanaethau llywodraeth leol ar draws Cymru'n arwain y ffordd ym maes hawliau LHDT+ ac yn hyrwyddo cynhwysiant i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (‘LGBT’) yn ein cymunedau.
https://www.youtube.com/watch?v=z7vWRIKv2yI&feature=youtu.be