Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynnydd o’r ‘Simsan i’r Ffordd’ gyda chwrs am ddim i adeiladu hyder

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Awst 2019
wobble 2 road

Bydd preswylwyr Merthyr Tudful sydd am ddechrau seiclo ond heb yr hyder ar y ffordd yn cael eu haddysgu o’r sgiliau sy’n eu gwneud yn ddiogel mewn cwrs wyth wythnos am ddim.

Roedd peilot y prosiect ‘Simsan i’r Ffordd’ yn llwyddiannus pan wnaeth saith o bobl lwyddo i wneud cynnydd o seiclo o gwmpas trac athletau ysgol i daith ffordd 20 milltir. Canlyniad hyn oedd bod y cyd drefnwyr sef Heini Merthyr a Chlwb Triathlon Merthyr wedi cynllunio ail gwrs fis Medi hwn.

Cafodd y sesiynau cychwynnol eu cynnal yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, gyda’r cyfranogwyr yn seiclo ar y trac i ddechrau cyn gadael tiroedd yr ysgol yn y pen draw am y byd mawr tu allan.

“Cafodd y cwrs hwn ei anelu at unrhyw un sydd am fynd yn ôl i’r cyfrwy a datblygu hyder wrth seiclo mewn ffordd ddiogel”, dywedodd Cydlynydd Chwaraeon Cymunedol Heini Merthyr, Jennifer Evans. “Rydym ni hefyd am gael rhagor o bobl i seiclo ym Merthyr a defnyddio’n rhwydwaith grêt o lwybrau a’r ffyrdd o’u cwmpas.

“Bydd rhai aelodau o’r cwrs cyntaf yn arweinwyr eu hunain bellach gan helpu eraill i ddyfod yn feicwyr hyderus hefyd.”

Bydd yr ail gwrs, eto yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, yn dechrau ddydd Sadwrn, 8 Medi am 9.30am. Bydd yr holl sesiynau’n digwydd ddyddiau Sul ac mae beiciau ar gael i bobl heb un yn barod.

Dywedodd Cadeirydd Clwb Triathlon Merthyr, Justin Smith: “Ar ôl hyfforddi’r grŵp cyntaf, allai ddim credu pa mor frwdfrydig a pharod oedden nhw i ddysgu. Gwnaethant oll lwyddo i gyflawni’r nod o reid beics 20 milltir gyda hyder.

“Y mae hefyd yn grêt i weld fod gymaint o’r grŵp wedi parhau i reidio a hyd yn oed wedi prynu beic newydd, gan edrych ymlaen at y cwrs nesaf.”

• Os hoffech gymryd rhan yn y cwrs nesaf cysylltwch Activemerthyrtydfil@Merthyr.gov.uk neu merthyrtriclub@gmail.com neu ffoniwch 01685 725318.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni