Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tystiolaeth preswylio ar gyfer Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Maw 2020
Household waste and recycling centre Dowlais

Bydd angen i breswylwyr Merthyr Tudful sy’n mynd i’r canolfannau gwastraff ac ailgylchu y cartref ddarparu tystiolaeth eu bod yn preswylio yno yn dilyn cynnydd sylweddol diweddar o ymweliadau gan bobl o ardaloedd awdurdodau lleol cymdogol.

O ganlyniad i gynghorau eraill yn gofyn i’w preswylwyr ddarparu tystiolaeth preswylio ac hefyd cau eu safleoedd nifer o ddyddiau’r wythnos, cafodd hyn effaith ar faint o wastraff sy’n cyrraedd safleoedd Merthyr Tudful yn Aberfan a Dowlais o’r tu allan i’r fwrdeistref sirol.

Rydym ni bellach yn gofyn bod ein preswylwyr yn cadw rhyw fath o dystiolaeth preswylio er mwyn sicrhau fod gwastraff ac ailgylchu sy’n cyrraedd ein canolfannau yn dod o breswylwyr Merthyr Tudful ac nad yw yn wastraff masnachol nac o unrhyw le arall.

Gall defnyddwyr y safle wneud hyn drwy ddod â thrwydded yrru, bil gwasanaeth neu fodd arall o adnabod, a bydd y rheolau hyn yn dod i rym o’r dydd Mercher hwn, 25 Mawrth.

Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i:

• Gadw oddi fewn i gyfyngiadau cyllideb ar gyfer ffioedd cludiant a gât ar gyfer deunydd ailgylchu/ gwastraff a dderbynnir yn y Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref

• Lleihau y nifer o ddefnyddwyr o’r safle nad ydynt yn breswylwyr ym Merthyr Tudful

• Lleihau prysurdeb y safle

• Lleihau gwrthdaro ac ymddygiad ymosodol rhwng defnyddwyr y gwasanaeth a gweithredwyr gwastraff. Mae gan bobl nad ydynt yn breswylwyr ffrydiau deunydd gwahanol yn eu safleoedd lleol, sy’n achosi gwrthdaro rhwng staff a defnyddwyr y safle pan fydd gofyn iddynt wneud rhywbeth nad ydynt wedi arfer ag ef neu nad ydynt am ei wneud.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogol, Cynllunio a Chefn Gwlad: “Mae cyflawni’r gwiriadau hyn ar y safle yn weithred cadarnhaol sy’n helpu i sicrhau fod ein tîm Rheoli Gwastraff yn gwneud popeth posibl i osod preswylwyr y dref hon yn gyntaf. Diolch am eich cydweithrediad parhaus.”

Byddwch yn ystyrlon yn sgil effaith feirws COVID-19 fod dilyn canllawiau GIG yn hanfodol. Os nad yw eich taith i’r Ganolfan yn hanfodol, peidiwch â pheryglu eich hun. Eich diogelwch chi ac eraill yw’r peth pwysicaf.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni