Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynnig i sefydlu Ffederasiwn Ysgol ffurfiol rhwng Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog ac Ysgol Gynradd Trelewis.
- Categorïau : Press Release , Education , Schools
- 01 Hyd 2019
Mae llywodraethwyr wedi cytuno i sefydlu ffederasiwn ysgol ffurfiol rhwng Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog ac Ysgol Gynradd Trelewis.
Fel y byddwch yn ymwybodol ohono, bu Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog ac Ysgol Gynradd Trelewis yn gweithio’n agos ers mis Tachwedd 2018 fel rhan o drefniant ‘anffurfiol’. Ein cynnig yw sefydlu Ffederasiwn Ysgol ffurfiol rhwng Ysgol ynradd Gymunedol Bedlinog ac Ysgol Gynradd Trelewis erbyn 20 Ebrill 2020, o dan Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae'r ddau Gorff Llywodraethol wedi cytuno i gyhoeddi'r ddogfen i ofyn am farn rhanddeiliaid am gyfnod o chwe wythnos gan ddechrau ar y Dydd Mawrth 1af Hydref 2019 (6 wythnos heb gynnwys hanner tymor mis Hydref).
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Mawrth 19eg Tachwedd 2019.